Chwe Gwlad: Pedwar newid i dîm Cymru ar gyfer her Ffrainc

Steve Tandy (Huw Evans)

Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru ar gyfer eu gêm Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc ddydd Sul.

Ar ôl colli 48-7 yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth, fe fydd y Ffrancwyr yn teithio i Gaerdydd gan obeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Iwerddon.

Mae Josh Macleod wedi colli ei le yn y garfan, gydag Alex Mann yn cymryd ei le. Bydd Olly Cracknell yn cychwyn ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad fel wythwr, gydag Aaron Wainwright yn symud i’r crys rhif chwech.

Yn y rheng flaen, fe fydd Rhys Carre a Tomas Francis yn cychwyn naill ochr i’r capten, Dewi Lake.

Dafydd Jenkins ac Adam Beard sydd yn parhau yn yr ail reng.

Yn yr unig newid yn yr olwyr, mae Joe Hawkins yn cymryd lle Ben Thomas yng nghanol cae.

Mae Tandy wedi penderfynu enwi pum blaenwr a thri chefnwr ar y fainc y tro hwn, gyda’r maswr Jarrod Evans yn cael ei gynnwys.


Dywedodd Steve Tandy: “Mae ambell newid yr wythnos hon. Mae llawer o’r newidiadau hynny’n seiliedig ar y ffaith ein bod yn chwarae Ffrainc yn benodol. 

“Mae Olly Cracknell wedi cael wythnos lawn o ymarfer ac fe chwaraeodd yn dda iawn yn yr Hydref hefyd.

“Roedden ni’n hynod siomedig gyda’r perfformiad yr wythnos ddiwethaf. Ry’n ni wedi trafod hynny ac wedi delio gydag ef yn ein ffordd ein hunain.

“Roedd y bechgyn yn agored ac yn onest am y ffaith na wnaethon ni fynnu ein lle yn y gêm y penwythnos diwethaf.

“Fe chwaraeon ni i ddwylo Lloegr rhyw ychydig, ac yn amlwg roedd ein diffyg disgyblaeth yn siomedig iawn.

“Roedd honno’n wers galed ond yn wers bwysig i ni ei dysgu. Mae’n rhaid i ni wella’r agwedd honno o’n chwarae, fydd wedyn yn ein galluogi i osod mwy o’n stamp ein hunain ar y gêm ddydd Sul.”

(Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.