'Llai o fandiau Cymraeg, ond mwy o gerddorion unigol'

Ifan Waun Fach

Ar ddydd Miwsig Cymru, mae'r cerddor a'r cyflwynydd Ifan Siôn Davies wedi bod yn pwyso a mesur beth yw'r brethyn sy'n creu'r sîn gerddoriaeth yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

"Dwi wir yn meddwl fod yr 'SRG' fel mae'n cael ei gyfeirio ato yn aml,  mewn lle da iawn ar hyn o bryd, gyda nifer fawr o artistiaid newydd o sawl genre gwahanol yn cynnig amrywiaeth eang, ac oherwydd hynny, mae 'na rywbeth at ddant pawb," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi'n teimlo fod 'na fwy o enwau unigol neu artistiaid solo yn cyhoeddi cerddoriaeth nag ydym erioed wedi ei weld ers amser maith, yn amlwg mae'r broses o recordio a chyhoeddi cerddoriaeth wedi dod yn symlach ac yn haws dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly yn rhoi'r cyfle i fwy o artistiaid a cherddorion gyhoeddi eu gwaith ac amrywiaeth o fewn yr arddulliau a'r genres.

Image
waun fach radio1
Yn fwy diweddvyhi

Gan fod Ifan yn teimlo fod mwy o artistiaid unigol yn perfformio yn y Gymraeg ar hyn o bryd, mae'n dweud fod y sefyllfa yn caniatáu i fwy o artistiaid i gyd-weithio ac arbrofi gydag artistiaid eraill.

"Mewn cyfnod o artistiaid unigol fyswn i’n deud, mae mwy nag erioed o'r blaen yn mentro o dan enwau eu hunain fel perfformwyr.

"Ac ydi, mae hynny yn golygu felly fod llai o fandiau yn bodoli nag yda ni efallai wedi arfer eu gweld a'u clywed, ond oherwydd hyn mae hwn yn gyfnod o gyd-weithio, lle mae mwy a mwy o artistiaid yn arbrofi a hyd yn oed yn cyd ysgrifennu," meddai.

Nid yn unig fel llais radio mae Ifan yn adnabyddus, ond mae hefyd wedi bod yn aelod blaenllaw o fandiau Yws Gwynedd a Sŵnami.

Image
Tsunami
'Adfer yr hen grefft' - Swnami, un o fandiau cynharaf Ifan 

Ac yn sgil hynny felly, mae Ifan ei hun wedi troedio llwyfannau mawr prif wyliau Cymru ers sawl blwyddyn, gan gynnwys Maes B a Llwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl a Gŵyl Gopr Amlwch.

Ond mae Ifan yn teimlo mai arlwy gwahanol i'r arfer fydd yn diddori'r dorf ar y prif lwyfannau eleni.

"Mae edrych ymlaen a darogan pa enwau fydd yn ymddangos yn y gwyliau mawr yr haf yma un eithaf anodd, gan fod nifer fawr o'r bandiau established wedi bod yn cyhoeddi eu bod yn cymryd saib am y tro, ac felly mae disgwyl y bydd yr enwau cyfarwydd yn gwneud llai. Sydd felly yn gyfle gwych i enwau newydd gamu i fyny," meddai.

"Ond wedi dweud hynny mi fydd Cowbois Rhos Botwnnog yn gigio dipyn eleni, ac mae Pys Melyn newydd fod ar daith yn Asia, a gan fod albyms gan artistiaid fel Griff Lynch, Ani Glass, Buddug a Dafydd Owain wedi bod ymysg yr uchafbwyntiau dros y flwyddyn diwethaf, dwi'n disgwyl eu gweld nhw'n perfformio dipyn.

"Ond dwi'n gobeithio gweld rhywun fel Mali Haf yn camu fyny ar ôl ei pherfformiad yn Glastonbury llynedd," meddai.

"Mae Mared ac Aleighcia Scott efo dipyn mwy o gynnyrch ar y ffordd eleni, gyda disgwyl i Mellt ryddhau mwy, a dwi'n gofyn wrth Dom a Lloyd, lle ma’r albym na?! 

"Ond yn sicr mae 'na enwau newydd cyffrous yn dechrau camu fyny yn barod fel Lafant, Martha Elen, Cyn Cwsg, Tai Haf Heb Drigolyn, mae ganddo ni lot i edrych 'mlaen ato."

Image
ywz gwynedd
Mae Ifan wedi bod ym mand Yws Gwynedd ers blynyddoedd

Yn ychwanegol i'r canolfannau gigs amlwg yng Nghymru, fel Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, Y Galeri yng Nghaernarfon a Neuadd Ogwen ym Methesda, mae Ifan yn gweld llwyfannau newydd yn dod yn fwy amlwg, a hynny mewn ardaloedd sydd efallai heb fod mor amlwg ar hyd y blynyddoedd.

"Mae 'na dipyn i weld yn mynd mlaen yn Abertawe, mae'r Bunkhouse yn gwneud pethau da, criw Tŷ Tawe yn weithgar iawn ac yn rhoi lineups cyffrous ymlaen bob amser, a Cwrw Caerfyrddin i weld yn mynd o nerth i nerth hefyd," meddai.

Wrth drafod y broses o recordio cerddoriaeth, er fod Ifan yn gweld y manteision (yn enwedig i artistiaid sy'n dechrau cyhoeddi cerddoriaeth am y tro cyntaf) i'r dechnoleg o allu recordio caneuon mewn unrhyw le yn y byd erbyn hyn, mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ac arwyddocâd mynd mewn i stiwdio broffesiynol i recordio efo cynhyrchydd yn rhan o'r broses.

"Er ei bod hi’n dod yn haws ac yn haws i neud pethau o adre, heb os ac oni bai, mae dal lle i stiwdios a safleoedd recordio proffesiynol," meddai.

"A dweud y gwir, mae mwy o alw bron a bod, gan fod bandiau ac artistiaid isho’r dihangfa ac i allu cau eu hunain mewn gofod cerddorol i fod yn greadigol, ac i drio pethau newydd."

Image
swnami

Gydag Ifan yn un o gyflwynwyr rhaglen gerddoriaeth newydd S4C - 3 Cân, ac mewn oes ddigidol lle mae cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwy a mwy o ddylanwad ar fywydau, mae Ifan yn gallu gweld gwerth sut all plafformau newydd elwa o arlwy ar y platfformau mwy traddodiadol, a bod y naill yn gallu bodoli ochr yn ochr, a hynny yn llwyddianus.

"Does ond angen i ni edrych ar ambell i glip 'chydig eiliadau o hyd, sydd wedi ei ddal gan gamerau teledu, ac sut mae modd i'r clipiau hynny wedyn gael ei weld gan filoedd os nad filiynau o wylwyr ar blatfformau fel YouTube neu TikTok, ac felly ma'r cyfryngau newydd yn dod a hyd yn oed mwy o bobl mewn i'n diwilliant arbennig ac unigryw ni yma yng Nghymru," meddai.

"Ar ar y pwnc o'r cyfryngau cymdeithasol, dwi mor falch o weld mwy o artistiaid Cymraeg yn mentro ar y platfformau yma heddiw, a dyma beth sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, mwy yn barod i hyrwyddo ei hunain ac yn rhannu cynnwys ar TikTok/Instagram.

"Dyma lle mae'r gynulleidfa ifanc i gyd erbyn hyn, felly pam ddim trio? Mwy o gyfle nag erioed o'r blaen, ac mae modd gallu gwneud hynny heb fawr o gyllid na phrofiad yn aml iawn.

"Mi fydd 3 Cân yn raglen sy’n cyfuno’r hen a’r newydd, lle fydd modd i'r gwylwyr fwynhau perfformiadau byw, yn ogystal â fersiynau newydd o rai o ganeuon gorau cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.