Chwilio am dri dringwr aeth ar goll ar arfordir Sir Benfro

Penrhyn Sant Gofan

Mae ymgyrch achub ar y gweill er mwyn ceisio dod o hyd i ddringwyr aeth ar goll yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro ddydd Iau

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i glogwyni ger Penrhyn Sant Gofan tua 16.00 ddydd Iau, yn dilyn adroddiadau fod tri dringwr wedi mynd ar goll.

Roedd sawl hofrennydd yn rhan o’r ymdrechion i ddod o hyd i’r dringwyr, gan gynnwys hofrennydd Gwylwyr y Glannau, hofrennydd o Wylwyr y Glannau Iwerddon, ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd bad achub o orsaf RNLI Angl hefyd yn y lleoliad, yn ogystal â chriwiau Gwylwyr y Glannau o Abergwaun, Sant Gofan a Dinbych y Pysgod, a swyddogion Heddlu Dyfed Powys.

Nid oes diweddariad hyd yma ynglŷn â chyflwr y dringwyr.

Mae ardal Penrhyn Sant Gofan yn boblogaidd iawn gyda dringwyr, gyda hyd at 300 o lwybrau dringo i’w gael ar y clogwyni calchfaen.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.