Oes angen rhagor o rym ar Estyn i atal troseddwyr rhyw fel Neil Foden?
Oes angen rhagor o rym ar Estyn i atal troseddwyr rhyw fel Neil Foden?
Mae pennaeth Estyn wedi awgrymu bod angen i'r corff arolygu ysgolion gael rhagor o bwerau er mwyn ceisio atal troseddwyr rhyw fel Neil Foden.
Fe gafodd y pidoffeil a'r cyn-bennaeth ysgol ei garcharu yn 2024 am gam-drin merched ifanc.
Ychydig fisoedd cyn ei arestio roedd Estyn wedi canmol prosesau diogelu adran addysg Cyngor Gwynedd - sef cyflogwyr Foden.
Yn ôl Owen Evans fe wnaeth Estyn bopeth oedd disgwyl iddyn nhw ei wneud o fewn y rheolau.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod Adolygiad Diogelu mewn Addysg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Daw hyn ar ôl i adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) gasglu fis Tachwedd fod asiantaethau wedi methu dros 50 o gyfleoedd i atal cyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor, rhag troseddu’n rhywiol yn erbyn merched ifanc.
Cafodd nifer o’r cyfleoedd hynny eu methu gan swyddogion Cyngor Gwynedd.
Er hynny, cafodd trefniadau diogelu yr awdurdod addysg eu canmol gan arolygwyr Estyn ym mis Mehefin 2023.
Cafodd Foden ei arestio ym mis Medi’r flwyddyn honno.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C mae pennaeth Estyn a Phrif Arolygydd ei Mawrhydi yng Nghymru, Owen Evans yn dweud bod ei dîm wedi gweithredu’n gywir.
“O ran Estyn, wnaethom ni bopeth oedd yn ddisgwyliedig. Roedd Estyn wedi mynd i mewn, rhoi holiaduron mas, wnaeth hyn ddim peri pryder ar y pryd”, medd Mr Evans.
“Fe aethom ni mewn i ysgolion, gofyn cwestiynnau, ond dim ond hyn a hyn mae Estyn yn medru wneud o fewn y ddeddfwriaeth sydd efo ni.”
Roedd arolwg 2023 yn dweud bod awdurdod addysg Gwynedd yn “deall eu cyfrifoldebau” ym maes diogelu ac yn “cyd-weithio’n effeithiol gyda swyddogion gwasanaethau plant”.
Roedd y gweithredu yn “hynod o gadarn a thrwyadl iawn”, pan oedd honiadau yn codi am staff, medd yr adroddiad.
Wedi ei gynnal ar y cyd â’r arolygydd cyllid Archwilio Cymru, roedd yr arolygwyr addysg yn edrych ar brosesau a data, gyda diogelu’n un agwedd o’r gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd yng Ngwynedd.
Ers cyhoeddi adroddiad beirniadol y CPR i achos Neil Foden fis Tachwedd, mae Estyn wedi bod yn ôl yng Ngwynedd ar y cyd gyda Arolygiaeth Gofal Cymru i edrych yn benodol ar ddiogelu, ac wedi casglu bod yr awdurdod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am fethiannau ac fe gafodd eu Cynllun Ymateb diweddaraf ei gymeradwyo yn yr wythnosau diwethaf.
Ond mae Estyn rŵan yn ystyried a oes angen rhagor o rymoedd arnyn nhw fel arolygwyr?
“Un o’r pethau rydyn wedi bod yn wneud ydy sicrhau bod ein fframwaith ni yn ddigonnol, ond hefyd edrych ar y ddeddfwriaeth.
“Oes ‘na gamau pellach allai Estyn wneud ac yw e’n bosib i ni gael yr hawliau hynny yn y dyfodol?
“Mae ‘na le i bawb yn y system ymddiheuro. Wnaeth y system ddim be’ ddyle system lwyddiannus wneud. Mae’r loes y mae’r plant ‘ma wedi gorfod mynd trwyddo yn ofnadwy.”
Pwerau ychwanegol
Ond yn ôl y cyn-bennaeth ysgol Julian Jones, ni fuasai rhoi rhagor o bwerau i arolygwyr addysg yn effeithiol.
“‘Dyw Estyn ddim yn arbenigo ar ddiogelwch plant. Lleygwyr ydyn nhw, cyn-athrawon, cyn-brif athrawon, pobl o ddiwydiant ac yn y blaen.
“Pan y’ch chi’n mynd i mewn, lle y’n ni’n siarad am ddigwyddiadau difrifol, mae angen cefndir cyfreithiol er mwyn edrych yn drwyadl a gofyn y cwestiynnau iawn.”
Dywed Llywodraeth Cymru: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles plant a phobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i weithredu'n gyflym mewn ymateb i argymhellion Cyfiawnder trwy ein Dewrder.
“Rydym yn cryfhau’r system ddiogelu gydgysylltiedig, gyda'r Adolygiad Diogelu mewn Addysg yn archwilio sut mae hynny'n gweithio yn ymarferol.
“Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag Estyn, sydd â rôl arolygu hanfodol, ac edrychwn ymlaen at eu cyfraniad i’r adolygiad.”
Prif Lun: Owen Evans, ESTYN