Newyddion S4C

Y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn 'anodd' wrth gofio cyfnod yn ddigartref

28/12/2023

Y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn 'anodd' wrth gofio cyfnod yn ddigartref

Mae'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn gyfnod 'anodd' i ddyn o Wynedd a oedd yn ddigartref ddeng mlynedd yn ôl. 

Cafodd Ant Evans o Gaernarfon ei wneud yn ddigartref ar 17 Rhagfyr 2013 wedi i'w gartref teuluol gael ei werthu yn sgil ysgariad ei rieni a marwolaeth ei fam yn ddiweddarach. 

"Oedd o’n gyfnod anodd iawn oherwydd nid yn unig oedd rhaid ymdopi efo salwch a marwolaeth Mam, o’n i dan straen yn trïo dod o hyd i rhywle i fyw, nid yn unig trwy tai cymdeithasol ond hefyd trwy’r sector breifat," meddai Ant Evans wrth Newyddion S4C. 

"O’dd hi’n gyfnod eithriadol o anodd i ni fel teulu jyst trio cael unrhyw fath o lwc i gael unrhyw le i fyw."

'Anodd'

Ar ôl gorfod cysgu ar soffa ei frawd yn Lerpwl am bron i chwe mis, llwyddodd i symud i dŷ yn y Felinheli yng Ngwynedd ym mis Mai 2014. 

Ond mae'r cyfnod o fod yn ddigartref wedi aros gydag Ant hyd heddiw, ac yn enwedig yn ystod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. 

"Hyd heddiw, dwi’n cael hi’n anodd efo’r syniad o ddathlu’r Nadolig oherwydd fod gen i’r atgofion ‘ma o 10 mlynedd yn ôl er wrth gwrs, ma’ 10 mlynadd wedi mynd heibio, yr adeg yma o’r flwyddyn yn enwedig, tydi 2013 ddim yn teimlo mor bell â hynny yn ôl i mi," meddai. 

"Felly yn sicr mi ydw i’n teimlo bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth i bobl tydi’r Nadolig ddim o reidrwydd yn gyfnod hapus i bawb, nid yn unig oherwydd digartrefedd am rhesymau lu felly."

Heriau

Mae Ant hefyd yn byw gyda chyflwr Hydrocephalus, sef hylif ar yr ymennydd. 

Cerebrospinal fluid (CSF) yw enw'r hylif, ac mae'n  amddiffyn yr ymennydd rhag niwed ac yn ei ddarparu gyda maetholion sydd eu hangen arno er mwyn gweithredu yn iawn. 

Mae'r ymennydd angen cynhyrchu CSF newydd yn gyson, ond os oes unrhyw amharu ar y broses hon, gall achosi pwysau ar yr ymennydd, sydd yna yn achosi Hydrocephalus. 

Mae arbenigwyr yn defnyddio tiwb bychan o'r enw 'shunt' er mwyn trin y cyflwr, sy'n cael ei ddefnyddio mewn llawdriniaeth ar yr ymennydd er mwyn cael gwared â'r hylif gormodol. 

Roedd ei gyflwr yn bryder ychwanegol i Ant wrth iddo wynebu ei sefyllfa yn ddigartref.

"O’dd o’n effeithio arna i yn fawr o ran straen a wedyn dwi ‘di clywad yn y gorffennol gen rywun arall sydd gan y cyflwr eu bod nhw wedi dioddef y shunt yn blocio oherwydd y straen felly mi o’n i yn ymwybodol iawn o’r risg yn hynny o beth. Oedd o’n un peth bod yn ddigartref, do’n i ddim isio mynd i’r ysbyty yr un pryd," meddai.

'Wir mewn angen'

Mae'r argyfwng tai yn rhywbeth a all arwain at ddigartrefedd, yn ôl Ant Evans. 

"I fod yn hollol onasd, dwi ddim yn gweld rheswm dros gael y tai gwag ‘ma, nail ai gwerthwch nhw neu rhentwch nhw allan i unigolion neu deuluoedd sydd wir mewn angen cartref, does dim diben cael y tai 'ma sefyll yn wag yn gwneud dim byd," meddai.

Ychwanegodd Ant bod angen codi ymwybyddiaeth o'r hyn y mae digartrefedd yn ei olygu go iawn.

"Mae pobl yn meddwl 'os oes gen rywun dô uwch eich pennau ac yn cysgu ar soffa, tydyn nhw ddim yn ddigartref' – tydi hynny ddim yn wir. Ma' angen cryn dipyn o godi ymwybyddiaeth bod ella bod gen rywun dô uwch eich pennau ond mae'r ffaith bo' nhw’n cysgu ar soffa neu wely aer, ma hynny yn gwneud nhw yn ddigartref hefyd." meddai.

"Does 'na ddim rhaid iddyn nhw gysgu ar fainc neu ddrws siop i fod yn ddigartref, ddim o gwbl."

'Dal ati' fyddai neges Ant pe bai'n siarad gyda'i hun ddeng mlynedd yn ôl.

"Fyswn i’n deud wrth yr Ant Evans 10 mlynedd yn ôl, fydd pethau ddim yn hawdd o bell ffordd nag yn berffaith ond dal ati, mi fydd pethau dipyn yn well ymhen chydig o flynyddoedd, saff i chdi."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.