Newyddion S4C

Alex Batty 'wrth ei fodd gyda'r tywydd oer a'r glaw' ar ei Nadolig cyntaf yn ôl yn y DU

26/12/2023
alex batty.png

Mae Alex Batty wedi dweud ei fod wrth ei fodd gyda'r tywydd oer a'r glaw wrth ddathlu ei Nadolig cyntaf yn ôl yn y DU. 

Dywedodd y bachgen 17 oed ei fod wedi derbyn caniau Irn-Bru a thocynnau i wylio Manchester United fel anrhegion wrth iddo dreulio dydd Nadolig gyda'i Nain. 

Fe aeth Alex ar goll yn 11 oed yn 2017 wedi i'w fam a’i daid, Melanie a David Batty, adael Manceinion gydag ef am wyliau wedi’i drefnu ymlaen llaw i Marbella yn Sbaen.

Cafodd Alex ei weld ddiwethaf ym Mhorthladd Malaga ar 8 Hydref y flwyddyn honno, y diwrnod yr oedd disgwyl iddyn nhw ddychwelyd i’r DU.

Dychwelodd i'r DU ar 16 Rhagfyr eleni ar ôl cael ei weld gan fyfyriwr ger dinas Toulouse yn Ffrainc ar ôl bod yn cerdded yn y Pyrenees.

Wrth drafod diwrnod Nadolig, dywedodd Alex: "Pan oeddwn i i ffwrdd, doeddem ni ddim yn dathlu'r Nadolig oherwydd roeddem ni wastad yn symud. 

"Mae hi mor braf cael mynd i'r gwely yn y nos a deffro yn yr un lle yn y bore.

"Dwi wrth fy modd efo'r tywydd oer a'r glaw hefyd."

Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Gwener eu bod wedi lansio ymchwiliad troseddol mewn cysylltiad â diflaniad y bachgen ifanc.



 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.