Caergybi yn trechu Caernarfon ar noson ryfeddol yng Nghwpan Cymru JD
Roedd yna ganlyniadau rhyfeddol yn ail rownd Cwpan Cymru JD nos Wener wrth i Hotspur Caergybi hawlio'r penawdau drwy drechu Caernarfon ar giciau o'r smotyn.
Wedi i'r gêm orffen yn ddi-sgôr yn y Stadiwm Newydd, fe enillodd y tîm o'r drydedd haen o bum gôl i bedwar ar giciau o'r smotyn, i gnocio'r Caneris allan o'r gystadleuaeth.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1847382671829455173
Mewn sioc arall, fe lwyddodd Penydarren o Uwch Adran Cyngres De Cymru i drechu tîm o'r gynghrair uwch eu pennau, Pontypridd, gartref o ddwy gôl i ddim.
Ni fydd arweinwyr y Cymru Premier, Pen-y-bont, yn parhau yn y gystadleuaeth ar ôl colli o gôl ddim gartref yn erbyn Met Caerdydd.
Ac fe roddodd Y Seintiau Newydd grasfa o 16 gôl i ddim i Langollen, o Uwch Adran y Gogledd Ddwyrain, gan lwyddo i unioni'r record am y fuddugoliaeth fwyaf swmpus yn hanes y Gwpan.
Rhagor o syrpreisys?
A gyda 25 o gemau yn cael eu chwarae ddydd Sadwrn, fe allwn weld fwy o ganlyniadau syfradnaol gyda thimau mor isel â'r bumed haen yn cael y cyfle i geisio cyrraedd trydedd rownd y gystadleuaeth.
Warriors Bae Caerdydd a Chlwb Cymric yw’r unig ddau glwb o’r bumed haen sy’n dal i fod yn y gystadleuaeth, a bydd Clwb Cymric yn croesawu enillwyr Cwpan Cymru 2010/11, Llanelli i’r brif ddinas brynhawn Sadwrn.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1847351689042337958
Bydd Llansawel yn ysu i osgoi embaras yn erbyn New Inn o’r bedwaredd haen, tra bod y Drenewydd yn wynebu taith i Lanuwchllyn o’r drydedd haen.
Adar Gleision Trethomas sy’n eistedd ar frig Cynghrair y De, ac mi fyddan nhw’n anelu i guro Adar Gleision Hwlffordd am yr eildro o fewn dwy flynedd ar ôl achosi dipyn o sioc yn Hydref 2022 (Tre 2-1 Hwl).
Bydd Y Barri hefyd yn herio clwb o Gynghrair y De, ac mae’r tair gêm ddiwethaf rhwng Y Barri a Chaerau Trelai wedi gorffen yn gyfartal.
Wedi dechrau digon simsan i’r tymor bydd Aberystwyth a Chei Connah yn benderfynol o beidio baglu yn erbyn Rhydaman a Chegidfa o’r ail haen.
Gemau Cwpan Cymru JD - Dydd Sadwrn 19 Hydref
Caersws v Y Rhyl 1879
Trefynwy v Y Pîl
Bwcle v Bae Colwyn
New Inn v Llansawel
Penrhyncoch v Yr Wyddgrug
Trefelin v Corinthiaid Casnewydd
Bangor 1876 v Llai
Llanilltud Fawr v Morriston
Y Barri v Caerau Trelai
Dinbych v Llangefni
Dyffryn Aber v Prifysgol Abertawe
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Llannefydd v Bae Trearddur
Warriors Bae Caerdydd v Rogerstone
Llanrwst v Cerrigydrudion
Corinthiaid Caerdydd v Lido Afan
Cei Connah v Cegidfa
Hwlffordd v Adar Gleision Trethomas
Cambrian v Goytre Utd
Porthmadog v Airbus UK
Clwb Cymric v Llanelli
Treffynnon v Rhuthun
Aberystwyth v Rhydaman
Llanuwchllyn v Y Drenewydd
Penrhiwceiber v Caerfyrddin
Llandudno v Bae Cinmel
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru/Sam Eaden