'Golygu mwy na dim': Emma Finucane yn bencampwraig seiclo trac y byd unwaith eto
Mae'r seiclwraig trac Emma Finucane wedi dweud bod ennill medal aur unigol ym Mhencampwriaethau Trac y Byd am yr ail dro yn "golygu mwy na dim".
Fe lwyddodd Finucane, o Gaerfyrddin, i guro ei gwrthwynebwr, Hetty van de Wouw o'r Iseldiroedd, yn y sbrint i fenywod ddydd Gwener.
Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r beiciwr 21 oed hawlio pencampwriaeth y byd yn y sbrint unigol.
Dyma hefyd ei hail fedal aur o'r pencampwriaethau yn Denmarc yr wythnos hon wedi iddi ennill y sbrint tîm gyda Sophie Capewell a Katy Marchant.
"Mae’n anodd iawn ceisio amddiffyn teitl," meddai Finucane wrth siarad â BBC Sport yn dilyn y gystadleuaeth.
"Yn feddyliol mae wedi bod yn anodd ymdopi â phwysau a disgwyliadau eleni, ond rwy’n falch iawn o’r person rydw i wedi dod wrth wneud hynny.
"Mae amddiffyn y teitl heddiw yn golygu mwy na dim - roeddwn i wir eisiau gwneud hynny, ac roedd mor anodd pan oedd pobl yn dweud, 'mi alli di ennill'."
'Anhygoel'
Ychwanegodd Finucane bod y ras yn un "anodd iawn".
"Roedd yn gystadleuaeth dda iawn gyda Hetty, mae'n dal i fod yn gystadleuaeth fawr iawn yma," meddai.
"Felly, rwy'n falch iawn o be' wnes i heddiw ac i ddod i'r brig, mae'n deimlad mor anhygoel."
Mae medal aur ddiweddaraf Finucane yn dilyn haf hynod lwyddiannus i'r seiclwraig o Gymru.
Hi oedd y fenyw gyntaf o Brydain i ennill tair medal yn yr un Gemau Olympaidd ym Mharis ym mis Awst.
Llun: Jonathan Nackstrand / AFP