Clunderwen: Yr heddlu'n ymchwilio i farwolaeth 'anesboniadwy' plentyn ifanc
18/10/2024
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i farwolaeth "anesboniadwy" plentyn ifanc ym mhentref Clunderwen, Sir Benfro.
Cafodd swyddogion alwad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ynghylch lles baban mewn cyfeiriad yn y pentref am tua 13.45 ddydd Gwener.
Dywedodd y llu fod y plentyn wedi marw yn y fan a'r lle, ac mae swyddogion wedi anfon eu cydymdeimladau at y teulu.
"Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd", meddai datganiad gan yr heddlu
Roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru yn bresennol yn y digwyddiad.
Nid oes rhagor o wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd ar hyn o bryd.