Rhybudd i beidio bwyta math o gaws rhag ofn bod E. coli ynddo
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd y DU wedi cyhoeddi neges ar drothwy Dydd Nadolig yn mynegi pryder y gallai bod E. coli mewn math o gaws.
Maen nhw wedi galw ar bobl i beidio bwyta ac i ddychwelyd y caws Mrs Kirkham’s sydd wedi ei alw yn ôl gan y cwmni, gan ddweud ei fod o bosib yn cynnwys math o E. coli.
Mae’r rhybudd yn berthnasol i:
- Mrs Kirkham’s Mild and Creamy Lancashire
- Mrs Kirkham’s Tasty Lancashire
- Mrs Kirkham’s Mature Lancashire
- Mrs Kirkham’s Smoked Lancashire
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd mai “rhagofal” oedd cyhoeddi'r neges.
Dylai unrhyw un oedd eisoes wedi prynu’r bwyd ei lapio’n ofalus a’i stori yn saff ar wahân i fwydydd eraill, medden nhw.
Roedd modd ei ddychwelyd i’r siop a chael eu harian yn ôl.
“Golchwch eich dwylo, offer, ac arwynebau a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r cynnyrch yn drylwyr,” meddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fe allai’r E. coli achosi “tymheredd uchel, poen yn y cyhyrau, oerfel, teimlo neu fod yn sâl a dolur rhydd,” medden nhw.
“Fodd bynnag, mewn achosion prin, gall yr haint fod yn fwy difrifol, gan achosi cymhlethdodau fel llid yr ymennydd.”