Newyddion S4C

Dyn o Sir Gâr yn euog o stelcio teulu gan gredu bod tri oedolyn yn blant iddo

24/12/2023
llanelli

Mae dyn 52 oed o Sir Gâr wedi ei gael yn euog o stelcio teulu gan gredu bod tri o oedolion yn blant iddo.

Ymddangosodd Robert Innes o Hendy-gwyn ar Daf yn y llys ac fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gais llwyddiannus ar gyfer Gorchymyn Gwarchod Rhag Stelcio amhendant, gan ddiogelu’r teulu rhag ei ymddygiad.

Dechreuodd Innes honni yn 2020 mai ei ferch oedd dynes ifanc yr oedd wedi ei gweld ar fws. 

Ers hynny, aeth ymlaen i'w stelcio, ei dychryn a cheisio cysylltu â hi a'i theulu, gan geisio ei argyhoeddi hi, ei brawd a'i chwaer eu bod wedi eu cymryd oddi wrtho drwy'r system gofal maeth flynyddoedd yn ôl.

'Codi braw'

Dywedodd cyfreithiwr yr heddlu Sue Clarke: "Mae hwn yn achos anarferol iawn, lle mae pedwar dioddefwr – mam a’i thri o blant, sy’n oedolion.

“Tra bod Innes yn ddieithryn i bawb ohonynt, ffurfiodd y syniad bod y tri phlentyn yn blant biolegol iddo, a’u bod nhw wedi’u cymryd oddi wrtho. Y mae hefyd yn credu mai rhywun arall y cafodd berthynas â hi flynyddoedd yn ôl yw eu mam.  

“Mae ei ymddygiad wedi codi braw ar y teulu, ac roeddem yn benderfynol o archwilio’r holl ddewisiadau sydd ar gael i’w diogelu nhw.”  

Derbyniodd Innes orchymyn gwarchod rhag stelcio dros dro ar 26 Hydref, ond gofynnodd yr heddlu i'r llys ystyried gorchymyn penagored, a gafodd ei ganiatáu yr wythnos ddiwethaf.

Disgrifiodd y Barnwr Layton ddiddordeb Innes yn y ferch fel un "afiach".

Clywodd y llys fod Innes wedi cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn 2020 yn gofyn am gymorth er mwyn cysylltu gyda dynes ifanc yr oedd wedi ei gweld ar fws.

Roedd hyn am fod ganddo "deimladau cryf" ei bod hi'n ferch iddo ond ei bod wedi cael ei mabwysiadu. 

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaeth alw yng nghartref y teulu gan esgus bod yn dditectif preifat yn chwilio am rywun a gafodd ei fabwysiadu 21 mlynedd yn ôl.

Arweiniodd hyn at gyfres o ymddygiad stelcio, gydag Innes yn mynd i gartref a gweithle'r fam yn ogystal ag at gymdogion a chydweithwyr yn gofyn am wybodaeth am y teulu.

'Poeni'

Mewn datganiad, dywedodd y fam bod Innes wedi achosi ofn mawr i'r teulu. 

“Mae’n ymddangos yn ddyfeisgar iawn ac yn llawn dychymyg,” meddai. 

“Mae’n ddyn mawr, ac er nad ydyw wedi cyflwyno bygythiad corfforol hyd yn hyn, rwy’n poeni bod mwy o siawns y gallai newid ei ymddygiad a’i agwedd po fwyaf y mae ei ymdrechion i gysylltu’n cael eu rhwystro.

“Mae’n gwybod ble mae fy mab i’n byw, lle’r wyf innau’n byw a gweithio, ac efallai bydd yn llwyddo i gael gafael ar fanylion cyswllt ar gyfer fy merched.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.