Teyrngedau i saer coed a chwaraewr rygbi 18 oed fu farw ym Mangor
Teyrngedau i saer coed a chwaraewr rygbi 18 oed fu farw ym Mangor
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i saer coed ifanc a chwaraewr rygbi ifanc a fu farw ym Mangor ddydd Mercher.
Mae'n debyg i Chloe Bidwell, oedd yn 18 oed, fod yn gweithio mewn tŷ yn y ddinas.
Ma'r Heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio ond nid yw ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Roedd Chloe Bidwell wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith tra’n astudio yng Ngholeg Menai yn y ddinas.
Roedd hi newydd ddechrau chawrae i dîm merched hŷn MônStars y tymor yma, ac roedd hefyd wedi chwarae i Rygbi Gogledd Cymru.
Dywedodd Clwb Rygbi Llangefni mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol: "Anfonwn ein cydymdeimladau dwys i teulu a ffrindiau Chloe Bidwell, chwaraewr i’r MônStars a RGC. Newyddion torcalonnus."
Dywedodd tîm Rygbi Gogledd Cymru eu bod nhw'n gyrru eu "cydymdeimladau dyfnaf" i deulu a ffrindiau Chloe Bidwell.
Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Menai: “Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth un o’n dysgwyr, Chloe Bidwell.
“Roedd Chloe, oedd yn brentis gwaith coed dawnus yng Ngholeg Menai, wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol ac roedd pawb yn ei hoffi.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd ei cholled yn cael ei theimlo gan lawer ac rydyn ni’n anfon ein cydymdeimlad diffuant at ei theulu a’i ffrindiau.
“Bydd ein staff arbenigol yn rhoi cymorth i unrhyw ddysgwr neu aelod o staff y mae’r newyddion trist hwn wedi effeithio arnynt.”
Dywedodd Ysgol Uwchradd Caergybi ei bod hi'n "unigolyn oedd wedi cyffwrdd â phob aelod o staff a’i chyfoedion".
"Roedd ei hegni, ei charedigrwydd, ei hymroddiad a’i hysbryd byrlymus yn llenwi pob dosbarth," medden nhw.
"Roedd gan pob aelod o staff feddwl y byd o Chloe. Roedd Chloe yn dyst i’r potensial di-derfyn sydd ym mhob un ohonom.
"Roedd yn chwifio’r faner dros ferched ym myd adeiladu. Bu iddi ennill medal aur mewn cystadleuaeth sgiliau Cymru.
"Roedd ei hangerdd am saerniaeth yn dyst i ba mor benderfynol oedd hi i wthio ffiniau a braeanu’r tir i’r genhedlaeth nesa o enethod.
"Dewisiodd ddilyn llwybr mewn maes sydd yn aml yn cael ei ystyried yn anghonfensiynol gan ddangos dewder a gwydnwch yng nghwyneb ystradebau.
"Wrth dalu teyrnged i Chloe a’i chofio fel unigolyn ysbrydoledig byddwn hefyd yn cario ei gwaddol, ei chymeriad penderfynol, ei hysbryd addfwyn a’i brwdfrydedd di-bendraw.
"Gadewch i ni ei chofio drwy gofleidio bywyd efo’r un weledigaeth, drwy fynd ar ôl ein breuddwydion a drwy ledaenu caredigrwydd.
Anfonwn ein cydymdeimlad at holl deulu a ffrindiau Chloe."
'Ymchwilio'
Yn ogystal ag astudio yn Ngholeg Menai roedd Chloe Bidwell hefyd yn brentis gyda'r gwasanaeth llety myfyrwyr Bangor, Varcity Living.
Mae’r cwmni wedi deud nad ydyn nhw’n gallu gwneud sylw gan fod ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod dynes 18 oed wedi marw ym Mangor ddydd Mercher ond nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Fe aeth yr heddlu i eiddo ar Ffordd Ddeiniol ym Mangor ddydd Mercher Rhagfyr 20fed yn dilyn adroddiad am farwolaeth annisgwyl dynes 18 oed.
“Mae’r crwner a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod ac rydym yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth, sydd ddim yn cael ei drin fel un amheus.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wrth y BBC: “Rydym yn ymwybodol o’r digwyddiad hwn ac yn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru.”