Newyddion S4C

Galw am gyfieithu gêm bêl-droed gyfrifiadurol i'r Gymraeg

EA FC / Mabon ab Gwynfor

Fe ddylai gêm bêl-droed gyfrifiadurol boblogaidd gael ei chyfieithu i’r Gymraeg, yn ôl un Aelod o’r Senedd.

Mae’r aelod Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor wedi dweud ei fod eisiau “rhoi pwysau” ar gwmni gemau Electronic Arts (EA) i greu fersiwn Gymraeg o’r gêm EA Sports FC – oedd yn arfer cael ei galw'n Fifa.

Wrth siarad ar lawr y Siambr ddydd Mercher, dywedodd Mr ap Gwynfor y byddai cael fersiwn Cymraeg yn helpu dysgwyr, cyn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, i gefnogi'r galwad.

Dywedodd Mr ab Gwynfor: “Ro'n i'n ymweld ag Ysgol Glan y Môr yn ddiweddar, ac fe wnes i siarad gydag un siaradwr Cymraeg newydd - disgybl yna - a ddywedodd mai'r hyn a fyddai yn ei annog fo i siarad mwy o Gymraeg buasai cael chwarae EA Sports FIFA trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fe wnes i gysylltu efo EA Sports, a dyma nhw'n ateb, yn dweud:

“Unfortunately, it will not be possible for us to include the Welsh language in EA Sports FC 24. Although we publish the game in 85 countries, EA Sports FC 24 is translated into 19 languages.”

Dywedodd Mr ab Gwynfor fod EA wedi ategu y byddai’n “cymryd dwy flynedd iddyn nhw baratoi rhaglen cyfrwng Cymraeg.” 

Fe ychwanegodd bod plant ysgol hefyd wedi mynegi dymuniad i chwarae'r gemau Roblox, Fortnite a Minecraft drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Mr Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: “Dwi’n hapus i godi’r pwyntiau y mae’r Aelod wedi’u gwneud.

“Mae cael pethau yn y maes chwarae ar gael i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol bwysig i bobl.

“Fel roedd Mabon ap Gwynfor yn dweud, pan fydd y sector yn newid mor gyflym, mae’n bwysig i bobl ifanc gael y pethau y maen nhw’n eu mwynhau ac sydd ar gael iddyn nhw’n Saesneg ar gael yn y Gymraeg hefyd.”

Image
EA Sports FC 25

Mewn ymateb, dywedodd EA: “Yn anffodus ni fydd yn bosib i ni gynnwys y Gymraeg yn EA Sports FC 24.

“Er ein bod yn cyhoeddi’r gêm mewn 85 o wledydd, mae EA Sports FC 24 wedi’i chyfieithu i 19 o ieithoedd, ac nid yw pob un ohonynt ar gael ar gyfer sylwebaeth sain yn y gêm.

“Cymharol ychydig o ieithoedd rydyn ni’n eu cynnwys ar gyfer ein cynulleidfa fyd-eang oherwydd mae angen adnoddau sylweddol i gyflwyno a chynnal pob un.

“Bydd ychwanegu iaith newydd yn llawn, gyda chynnwys sain a thestun, yn cymryd hyd at ddwy flynedd, a bydd angen buddsoddiad parhaus dros y tymor hir i’w chadw’n gyfoes â’n gêm sy’n datblygu’n gyson.”

Prif lun: EA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.