Newyddion S4C

Ceredigion: Achub person o gar aeth yn sownd ar ffordd oedd dan ddŵr

Achub person mewn car yn Llechryd, Ceredigion

Mae person wedi cael ei achub o gar aeth yn sownd ar ffordd oedd dan ddŵr yng Ngheredigion.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i ddigwyddiad yn Llechryd, Ceredigion am 11.36 fore Mercher.

Roedd criwiau o orsafoedd Caerfyrddin, Hwlffordd, Castellnewydd Emlyn a Cheredigion wedi teithio i Lechryd.

Roedd un person yn sownd mewn car ar ffordd oedd dan ddŵr.

Cafodd y person ei achub o'r cerbyd a'i symud i dir diogel a sych. Cafod dy ffordd ei chau tra bod y dŵr yn clirio.

Fe wnaeth y criwiau adael Llechryd am 1.22pm.

Mae'r gwasanaeth tân wedi atgoffa gyrwyr am beryglon gyrru ar ffyrdd sydd dan ddŵr.

Gallai'r dŵr fod yn ddyfnach ac yn llifo'n gyflymach nag y mae'n ymddangos, medden nhw.

Maen nhw'n galw ar bobl i gynllunio cyn teithio a defnyddio ffyrdd eraill pe bai angen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.