Dwy ferch yn ddiogel ar ôl digwyddiad padlfyrddio ym Môn

RNLI Moelfre

Mae dwy ferch yn ddiogel ar ôl cael eu hysgubo oddi ar eu bwrdd padlfyrddio ger arfordir Ynys Môn brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn galwad gan Wylwyr y Glannau, cafodd Bad Achub Moelfre eu galw i Draeth Llanddona yn nwyrain yr ynys i'w hachub.

Erbyn hynny, roedd rhieni'r merched wedi mynd i'r dŵr i geisio eu helpu ac fe lwyddodd y pedwar i gyrraedd y lan yn ddiogel.

Wrth i'r bad achub fynd i nôl y bwrdd padlfyrddio a'i ddychwelyd i gyfeiriad y traeth, cafodd y criw eu galw i ymateb i adroddiad arall am berson a oedd mewn trafferth ar ôl i'w canŵ droi drosodd ger Llanddona.

Oherwydd y gwyntoedd cryfion a'r môr garw, cafodd bad achub pob tywydd Moelfre, ei alw am 14.03, ynghyd â hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Wedi gwaith chwilio trylwyr, ni ddaeth y criwiau o hyd i unrhyw un yn y môr.

Yn dilyn y digwyddiadau, mae Bad Achub Moelfre yn annog pobl i fod yn ymwybodol o beryglon mynd i'r môr pan fo gwyntoedd cryfion.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.