'Unwaith mewn oes': Dinbych yn paratoi i groesawu sêr pêl-droed o Barcelona, Real Madrid a Bayern Munich
'Unwaith mewn oes': Dinbych yn paratoi i groesawu sêr pêl-droed o Barcelona, Real Madrid a Bayern Munich
O Kylian Mbappé i Erling Haaland, mae Pencampwriaeth Euro Dan-19 UEFA wedi bod yn llwyfan i rai o sêr pêl-droed ifanc amlycaf y gamp ddisgleirio dros y blynyddoedd diwethaf. A nos Sul, fe fydd y gystadleuaeth yn cyrraedd Dinbych.
Mae’r dref yn un o bedwar lleoliad sydd wedi’u dewis i gynnal gemau’r gystadleuaeth, gyda Wrecsam, Bangor a Chaernarfon.
Fe fydd chwaraewyr o Real Madrid, Barcelona a Bayern Munich yn chwarae ym Mharc Canolog dros yr wythnosau nesaf, wrth i Sbaen, Yr Almaen a Denmarc chwarae ar y maes.
Inline Tweet: https://twitter.com/UEFAMensYouth/status/2070488675138371587?s=20
Dywedodd Cadeirydd y clwb, Shon Powell bod yr awyrgylch yn "arbennig iawn".
"Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes, ac mae ysbryd y gymuned yn wych," meddai wrth Newyddion S4C.
"Fydd hyn ddim yn digwydd eto yn Ninbych yn ystod ein hoes ni, felly roedd yn rhaid i ni fachu ar y cyfle gyda'r ddwy law a chofleidio'r digwyddiad, ac mae'r gymuned gyfan wedi gwneud hynny."
Mae’r digwyddiad yn benllanw 12 mlynedd o waith caled i wirfoddolwyr y clwb, sydd yn chwarae yn yr ail adran ar hyn o bryd, sef cynghrair JD Cymru North.
Dros y cyfnod hwn, mae gwaith wedi’i wneud er mwyn gwneud y cae yn fwy, gosod gantri ar gyfer camerâu teledu, adeiladu system dyfrio, gosod ystafelloedd newid o ansawdd a lolfa lletygarwch â balconi yn ogystal â 2,000 medr o geblau ar ymyl y cae.
Mae tua £2 filiwn wedi’i wario ar y holl welliannau, gydag arian gan Sefydliad Pêl-Droed Cymru (CFF), ar ran Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, yn cyfuno ag ymdrechion di-flino'r clwb i godi arian.
Ychwanegodd Mr Powell: "Rwy'n falch iawn, iawn yn wir.
"Roedd gennym ni gynllun bron o'r dechrau. Fe wnaethon ni lunio cynllun 15 mlynedd tua 12 mlynedd yn ôl, ac rydyn ni wedi gweithio'n unol â chynllun lle roedden ni'n gwneud rhywbeth bob haf i wella'r cae.
"Fe wnaethon ni ddechrau codi arian drwy grantiau lleol. Yna, hanner ffordd drwy'r broses honno, enillodd Cymru'r cyfle i gynnal Pencampwriaeth Euro Dan-19 UEFA. Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn gwybod bod gennym gae o safon uchel iawn.
"Rydyn ni wedi adeiladu clwbdy newydd, wedi gosod system ddyfrhau, ac wedyn y peth nesaf ar y rhestr oedd adeiladu ystafelloedd newid newydd gan nad oedden nhw'n addas. Felly fe wnaethon ni lunio cynlluniau ar gyfer hynny.
"Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, mae gennym ni'r maes anhygoel yma, sydd i gyd yn newydd sbon.
"Mae ganddo gyfleusterau gwych, ac mae'r cae ei hun yn arbennig.
"Mae'r un maint â Wembley, yr un maint ag Old Trafford - ac ydyn, rydyn ni'n falch iawn ohono.
"Mae gennym ni'r seilwaith yma hefyd i gynnal gemau rhyngwladol yn y dyfodol."
‘Sêr y dyfodol’
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2070452770251899198?s=20
Fe chwaraeodd timau dan 16 o Frasil a Sbaen ar y cae bedair blynedd yn ôl, yn rhan o gystadleuaeth datblygiad UEFA, ac mae’r gystadleuaeth hon yn gam yn uwch mewn safon.
Dywedodd Ollie Beech, Swyddog Cyfryngau CPD Dinbych: "Mae sêr go iawn y byd pêl-droed yn mynd i chwarae ar y cae yma.
"Pan edrychwch ar y chwaraewyr sydd wedi chwarae yn y bencampwriaeth yn y gorffennol - Kylian Mbappé, Harry Kane, Antoine Griezmann, Viktor Gyökeres - mae'r rhestr yn ddiddiwedd.
"Bydd Xavi Espart, sydd newydd wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Barcelona yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA ac yn La Liga, a Diego Aguado, sydd wedi chwarae ei gêm gyntaf dros dîm cyntaf Real Madrid, yn chwarae dros Sbaen.
"Mae'n annhebygol iawn y cewch chi gyfle i'w gweld yn chwarae ar gae o'r maint yma byth eto."
Yn ôl Mr Beech, bydd hynny'n "atyniad enfawr i bobl ddod yma".
"Mae poblogaeth Dinbych tua 9,000. Mae chwaraewyr ar y cae yma sy'n chwarae eu gemau cartref mewn meysydd sydd â digon o le i ddal pob un o drigolion Dinbych 10 gwaith drosodd," ychwanegodd.
Bydd holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Dan-19 yn cael eu dangos yn fyw ar-lein ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.
Prif Lun: Kylian Mbappê, Erling Haaland a tharian UEFA Euro Dan-19 yng Nghlwb Pêl-droed Dinbych. (Anton Zaitsev/Michael Emilio/Cymdeithas Bêl-droed Cymru)