Yr Alban allan o Gwpan y Byd a'u rheolwr yn ymddiswyddo

Steve Clarke

Mae rheolwr Tîm Pêl-droed yr Alban Steve Clarke wedi ymddiswyddo, o fewn awr wedi'r cadarnhad fod ei dîm allan o Gwpan y Byd. 

Wedi i Ghana golli yn erbyn Croatia nos Sadwrn, doedd hi ddim yn bosib i'r Albanwyr gamu i rownd 32 olaf y bencampwriaeth. 

Roedd y rheolwr 62 oed wedi bod wrth y llyw ers saith mlynedd, a fe yw'r rheolwr cyntaf yng nghamp y dynion i arwain ei wlad i dair prif bencampwriaeth bêl-droed.    

Llwyddodd yr Alban i gyrraedd Cwpan y Byd 2026 am y tro cyntaf ers 1998.
 
A dynododd y Brenin Charles ddydd Llun 15 Mehefin 2026 yn ŵyl y banc arbennig yn yr Alban i ddathlu ymddangosiad y tîm yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 28 o flynyddoedd. 
 

Fis diwethaf, cafodd Steve Clarke ei wobrwyo â chytundeb pedair blynedd i arwain ei wlad, cyn i'r garfan deithio i America ar gyfer Cwpan y Byd. 

Ond siomedig oedd perfformiad y tîm. 

Y gobaith oedd curo Haiti yn hawdd yn y gêm gyntaf, ond buddugoliaeth o 1-0 gafodd yr Albanwyr, cyn colli yn erbyn Morocco a Brasil.

Llun: Reuters


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.