Sêr beicio ffordd Prydain yn rasio drwy Aberystwyth ar ddiwrnod olaf y pencampwriaethau
Bydd rhai o feicwyr mwyaf blaenllaw Prydain yn cystadlu ar ffyrdd Aberystwyth ddydd Sul ar ddiwrnod olaf Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds.
Bydd pedwar teitl cenedlaethol yn cael eu penderfynu yn rasys ffordd y menywod a’r dynion, yn y categorïau elît a dan 23.
Bydd ras y menywod yn dechrau am 08:45, gyda ras y dynion yn dilyn am 13:45. Bydd y ddwy ras yn dechrau ac yn gorffen ar bromenâd Aberystwyth.
Ar ôl cael eu cyflwyno ar lan y môr, bydd y beicwyr yn gadael y dref tua Llanfarian cyn mynd cyn belled â Thrawsgoed ar gylchdaith 23.4 cilometr o hyd.
Bydd y menywod yn cwblhau tair lap a’r dynion yn cwblhau pum lap cyn dychwelyd i Aberystwyth ar gyfer rhan olaf y ras.
Bydd y gylchdaith olaf yn mynd ar hyd rhan helaeth o’r promenâd, heibio’r Hen Goleg a’r castell, cyn mynd drwy’r hen harbwr a thros bont Trefechan.
Bydd dringfa Southgate, sydd â graddiant o 8.7%, a’r ddisgynfa gul o Moriah yn herio’r cystadleuwyr cyn iddynt ddychwelyd i’r promenâd.
Bydd ras y menywod yn 128 cilometr o hyd, gyda’r dynion yn rasio dros 187 cilometr.
Ymhlith y prif enwau yn ras y menywod fydd y bencampwraig bresennol Millie Couzens, Pfeiffer Georgi, sydd wedi ennill y teitl deirgwaith, ac enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd, Anna Henderson.
Bydd y Gymraes Zoe Backstedt hefyd yn cystadlu, ar ôl iddi gadw ei theitl cenedlaethol yn y ras yn erbyn y cloc yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau.
Bydd ei chwaer Elynor Backstedt, Anna Morris, Megan Barker a’r feicwraig leol Lowri Richards o Giliau Aeron hefyd ymhlith y rhai ar y llinell gychwyn.
Yn ras y dynion, bydd Sam Watson yn ceisio amddiffyn y teitl a enillodd yn Aberystwyth y llynedd.
Bydd y cystadleuwyr yn cynnwys Matthew Brennan, Ethan Hayter, Ben Swift, Fred Wright ac Owain Doull.
Bydd Finlay Tarling o Ffos-y-ffin hefyd yn cystadlu yn y categori dan 23, ar ôl iddo ennill y fedal efydd yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Iau.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Geredigion gynnal y pencampwriaethau, gyda deg crys pencampwr cenedlaethol yn cael eu dyfarnu dros dridiau o rasio.
Dechreuodd y cystadlu gyda’r rasys yn erbyn y cloc yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau, cyn y rasys cylchdaith drwy ganol Aberystwyth nos Wener.
Bydd arddangosiadau BMX gan gwmni lleol Shin-Dig hefyd yn cael eu cynnal yn yr Ardal Arddangos ddydd Sul, ynghyd â nifer o stondinau.