Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Wynebau profiadol yn dychwelyd wrth i Gatland gyhoeddi'r tîm i wynebu Ffrainc

Chwe Gwlad: Wynebau profiadol yn dychwelyd wrth i Gatland gyhoeddi'r tîm i wynebu Ffrainc

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm Cymru fydd yn wynebu Ffrainc nos Wener, gyda sawl wyneb profiadol yn dychwelyd i’r maes.

Fe fydd Josh Adams, Liam Williams a Dafydd Jenkins yn cychwyn dros Gymru ar ôl methu'r bencampwriaeth y llynedd.

Fe fydd y blaenwyr rheng flaen Henry Thomas ac Evan Lloyd yn dechrau eu gêm ryngwladol gyntaf, ar ôl ennill pob un o’u capiau hyd yma oddi ar y fainc.

Nid oes lle i’r wythwr profiadol Taulupe Faletau, gydag Aaron Wainwright yn cychwyn yn ei safle. Fe fydd yn ymuno â’r capten Jac Morgan a’r blaenasgellwr James Botham yn y rheng ôl.

Ben Thomas fydd yn cychwyn yn safle’r maswr, gan bartneru gyda mewnwr Caerloyw, Tomos Williams. Owen Watkin a Nick Tompkins fydd yn cychwyn yn safleoedd y canolwyr.

Ymhlith yr eilyddion, bydd Nicky Smith yn ennill ei 50fed cap os gaiff ei alw o’r fainc – tra gallai maswr y Gweilch, Dan Edwards gipio ei gap cyntaf dros ei wlad.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Ry’n ni’n wirioneddol edrych ymlaen at yr her yn erbyn Ffrainc.

“Y Chwe Gwlad yw’r Bencampwriaeth rygbi orau’n y byd gan fod pob gêm yn achlysur anferth.

“‘Ry’n ni eisiau mynd i Ffrainc, bwydo oddi-ar yr awyrgylch a chael dechrau da i’n hymgyrch."

Mae Ffrainc hefyd wedi cyhoeddi eu tîm, gyda’r mewnwr Antoine Dupont yn eu harwain.

Er bod Charles Ollivon, Damien Penaud a Gael Fickou ymhlith y rhai sydd yn methu’r gêm gydag anafiadau, mae’r tîm cartref wedi cyhoeddi tîm llawn profiad a chryfder corfforol.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.