Newyddion S4C

Pen Llŷn: Apêl wedi i drelar daro person ar ffordd wledig

Botwnnog

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng unigolyn a threlar ger ardal Botwnnog ym Mhen Llŷn. 

Cafodd cerddwr ei daro gan drelar oedd yn cael ei dynnu gan gerbyd ar ffordd sydd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Trefaes am tua 9.30 ar ddydd Mercher 22 Ionawr.

Mae'r cerbyd yn cael ei ddisgrifio fel pickup glas tywyll gyda threlar mawr ar ei gefn. 

Mae'r heddlu'n apelio ar yrrwr y cerbyd i gysylltu gyda swyddogion a hefyd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a allai fod â lluniau camera dashcam, neu sydd efallai'n gwybod pwy yw'r gyrrwr, i gysylltu gyda nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad gysylltu â’r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod C009988.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.