Toriadau Prifysgol Caerdydd: Llywodraeth 'yn codi'r faner wen' meddai'r gwrthbleidiau
Toriadau Prifysgol Caerdydd: Llywodraeth 'yn codi'r faner wen' meddai'r gwrthbleidiau
Mae aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio gwneud digon i ddiogelu addysg uwch yn sgil cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd eu bod yn ystyried torri 400 o swyddi.
Fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi ddydd Mawrth eu bod yn ystyried gwneud toriadau mewn adrannau yn cynnwys nyrsio, cerddoriaeth ac ieithoedd modern.
Maen nhw hefyd yn ystyried uno rhai adrannau, gan ddweud eu bod yn wynebu diffyg ariannol o dros £30 miliwn.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Cefin Campbell o Blaid Cymru fod y llywodraeth "yn chwifio'r faner wen yng ngwyneb cannoedd o ddiswyddiadau".
Ychwanegodd: "Gyda phrifysgol fwyaf Cymru ar fin colli 400 o swyddi, mae'n sumtom frawychus o fethiant llwyr y Blaid Lafur dros 25 mlynedd i roi seiliau ariannol cynaladwy i'n prifysgolion."
Ar ran y Ceidwadwyr cyhuddodd Natasha Ashgar y llywodraeth o ganiatau "gweithred o fandaliaeth addysgiadol."
Ond mewn ymateb. dywedodd y gweinidog addysg uwch, Vikki Hodge fod y llywodraeth wedi gwneud bopeth o fewn eu gallu i gefnogi'r sector. Pwysleisiodd fod prifysgolion yn rheoli'u hunain a bod "90 y cant o'u cyllid yn dod o'r tu allan i'r llywodraeth."
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd wedi mynegi pryder am unrhyw gynllun i gau'r adran nyrsio yn y brifysgol.
Yn ôl cyfarwyddwr gweithredol y coleg nyrsio, Helen Whyley, byddai’r toriadau yn cael "effaith sylweddol ar ddyfodol nyrsio yng Nghymru".
"Mae'r penderfyniad gyda'r potensial i fygwth y cyflenwad o nyrsys wedi eu cofrestru sydd yn gweithio yn y bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru a thanseilio ymdrechion i fynd i'r afael â'r prinder dybryd o staffio yn y GIG a gofal cymdeithasol," meddai.
"Mae 'na oblygiadau sylweddol hefyd i academwyr a darlithwyr nyrsio o safbwynt diswyddiadau posib a hefyd y seilwaith sydd ei angen i hyfforddi niferoedd angenrheidiol o fyfyrwyr."
Galw am "ailystyried y toriadau" mae cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Dywedodd Manon Cadwaladr y gallai colli arbenigedd mewn ieithoedd yn y brifysgol arwain at "golli’r gallu i ddysgu ieithoedd yn ein hysgolion" yn y pen draw.
"Byddwn oll yn dlotach oherwydd hyn," meddai.
"Mae ieithoedd a chyfieithu yn hanfodol i wahanol genhedloedd ddeall ei gilydd."
Ychwanegodd: "Mae gwerth masnachol i ieithoedd wrth i wledydd brynu, gwerthu, mewnforio ac allforio ymysg ei gilydd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "siomedig iawn bod cyrsiau nyrsio yn rhan o'r cynigion hyn ac rydym yn gweithio ar frys gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau ein bod yn hyfforddi'r un nifer o nyrsys yng Nghymru".