Achos Dyffryn Aman: Merch wedi dweud ei bod hi 'am wneud rhywbeth twp'
Achos Dyffryn Aman: Merch wedi dweud ei bod hi 'am wneud rhywbeth twp'
Mae llys wedi clywed bod merch sydd wedi ei chyhuddo o geisio lladd dwy athrawes a disgybl wedi dweud ei bod "am wneud rhywbeth twp" cyn yr ymosodiad.
Cafodd y dystiolaeth ei roi gan ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gâr ar drydydd diwrnod yr achos yn erbyn y ferch 14 oed, sydd wedi ei chyhuddo o drywanu un disgybl a dwy athrawes, Fiona Elias and Liz Hopkin.
Mae’r ferch yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio ar 24 Ebrill y llynedd.
Mae hi eisoes wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau llai difrifol o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
'Rhywbeth twp'
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher bod y ferch wedi dweud wrth ei ffrindiau: "Rydw i am wneud rhywbeth twp."
Roedd y ferch, oedd yn 13 ar y pryd, eisoes wedi ei hatal o'r ysgol am gyfnod ar ôl i gyllell gael ei chanfod yn ei bag yn 2023.
Cafodd cyfweliad yr heddlu gyda disgyblion oedd yn yr ysgol ei chwarae yn y llys ddydd Mercher.
Dywedodd un disgybl ei bod wedi clywed y ferch yn dweud y byddai'n gwneud rhywbeth hurt yn ymwneud â Mrs Elias.
"Doeddwn i ddim yn rhan o'r sgwrs, dim ond gwrando oeddwn i," meddai.
"Fe ddywedodd hi 'rydw i am wneud rhywbeth twp sy'n mynd i fy niarddel'.
“Dywedodd rhywbeth oedd yn ymwneud â Mrs Elias. Dyweodd ei bod am wneud rhywbeth twp. Roeddwn i ond yn meddwl ei bod am roi slap i Mrs Elias.”
Dywedodd sawl disgybl wrth yr heddlu eu bod wedi gweld cyllell gan y ferch yn neuadd isaf yr ysgol adeg egwyl, gyda'r ferch yn dweud ei bod yn ystyried trywanu rhywun.
"Doeddwn i ddim yn meddwl ei bod am wneud unrhywbeth", meddai un ferch.
Clywodd un bachgen y ferch yn dweud "Rydw i yn mynd i gael fy rhoi i ffwrdd am amser hir", neu "welwch chi ddim ohonai am gyfnod."
Dywedodd: "Roeddwn yn parhau i edrych draw at fy ffrindiau, fel 'Jôc arall yw hyn neu rywbeth?"
Gofynnodd bachgen arall i'r ferch: "Beth wyt ti am ei wneud felly?'
"Fe wnaeth hi dynnu'r gyllell allan o'i phoced a dweud: 'Rydw i am wneud rhywbeth sy'n cynnwys cyllell'."
Wedi i Mrs Elias ddod i mewn i'r neuadd, dywedodd bod "ystum y ferch wedi newid yn llwyr."
Ar ei ffordd i'r wers nesaf fe glywodd fod y ferch wedi ymosod ar Mrs Elias.
Clywodd y rheithgor am ddigwyddiad arall ar fws ysgol rhyw fis cyn yr ymosodiad, rhwng y diffynnydd a'r ferch gafodd ei hanafu yn yr ymosodiad.
Dywedodd ei fod wedi gweld y ferch yn taro'r diffynydd sawl gwaith, ac nid oedd hi wedi ymateb.
'Isel ac ynysig'
Pnawn Mercher, clywodd y llys gan dad y diffynydd. Dywedodd mai ef oedd biau'r gyllell gafodd ei ddefnyddio i drywanu'r ddwy athrawes.
Roedd e'n gyfrifol am wneud yn siŵr nad oedd yna unrhyw arf ym mag ysgol ei ferch wedi digwyddiad yn yr ysgol chwe mis ynghynt. Ond dywedodd nad oedd e wedi gweld ei ferch cyn iddi fynd i'r ysgol ar fore'r ymosodiad.
Cafodd y gyllell ei dangos i'r rheithgor a dywedodd y tad ei bod yn rhan o'i offer pysgota.
Dywedodd fod ei ferch wedi cael ei bwlio, a'i bod hi'n teimlo yn "isel ac ynysig" ar adegau. Roedd hi hefyd wedi niweidio'i hun.
Mae'r achos yn parhau.