Newyddion S4C

'Tyfu bob blwyddyn': Cannoedd yn y môr ym Mhorthcawl ar Ddydd Nadolig

25/12/2023

'Tyfu bob blwyddyn': Cannoedd yn y môr ym Mhorthcawl ar Ddydd Nadolig

Heidiodd dros fil o bobl i Borthcawl ar fore Nadolig i fentro i'r dŵr ar gyfer digwyddiad nofio yn y môr blynyddol y dref.

Eleni yw'r 58fed blwyddyn mae'r digwyddiad wedi cael ei gynnal, ac unwaith eto roedd pobl yn gwisgo fyny fel cymeriadau pantomeim a nofio yn y dŵr i godi arian at elusennau.

Dros y blynyddoedd mae nifer y nofwyr sydd yn cymryd rhan wedi cynyddu'n sylweddol. Dwsin oedd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad cyntaf er mwyn codi arian i brynu teganau i blant lleol.

Bellach mae miloedd wedi cael eu codi ar gyfer elusennau gwahanol.

Roedd Anne Jones yn cymryd rhan am y 15fed tro eleni, ac mae hi wrth ei bodd yn mentro i'r dŵr ac yn gwneud pob wythnos gyda grŵp nofio Bluetits.

"Dwi 'di neud ers tua 15 mlynedd, dwi di bod yn gyfarwydd â neud e achos bod fi'n mynd i nofio bob wythnos," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae'n dda iawn i'r iechyd meddwl a'r iechyd corfforol. A ma' pawb sy' yn dod ma'n hapus iawn, dim pobl sy'n dweud 'o fi'n gorfod mynd i redeg heddi'. 

"Ma' nhw'n hapus 'da yn beth ma nhw'n neud."

Atgofion

David King yw Cadeirydd pwyllgor y digwyddiad ym Mhorthcawl, ac mae ganddo atgofion da o'r digwyddiad cyntaf.

"Dwi wedi bod yn rhan o'r Christmas Swim ers oni'n fachgen bach," meddai.

"Roedd e wedi dechreu fel digwyddiad bach bach iawn, cwpl o bobl yn mynd i'r dŵr i godi cwpl o bunnoedd ar gyfer losin a teganau i blant sydd angen cymorth ac i rannu cyfeillgarwch yr ŵyl.

"Mae e wedi tyfu gymaint ar hyd y blynyddoedd sydd yn wych ac erbyn hyn mae'n cymryd lot o ymdrech i drefnu.

"Mae'r broses yn dechrau ym mis Mehefin ac yn parhau tan y diwrnod mawr ar fore Nadolig."

Image
Porthcawl Christmas Swim
Un o'r digwyddiadau cyntaf ym Mhorthcawl. Llun: Nofio bore Nadolig Porthcawl

Y llynedd fe wnaeth 1,200 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad tra bod tua 4,000 neu 5,000 o bobl yn gwylio, meddai Lucy Hughes, Ysgrifennydd y pwyllgor.

Ychwanegodd bob pobl o bob cwr o'r wlad yn dod i gymryd rhan a chefnogi.

"Bellach mae 1,200 o bobl y flwyddyn yn nofio ac mae'n tyfu bob blwyddyn," meddai.

"Ac ar ben hynny mae 4,000 neu 5,000 o bobl yn dod i gefnogi, felly mae'n ddigwyddiad mawr.

"Mae'n cael cefnogaeth gwych yn lleol a gan bobl pellach i ffwrdd gyda nifer o bobl yn teithio, mae'n rhan o draddodiad teulu i lawer."

Image
Porthcawl Christmas Swim
Mae thema gwisg ffansi wahanol bob blwyddyn. Llun: Nofio bore Nadolig Porthcawl

Mae thema gwisg ffansi bob blwyddyn, ac eleni y thema oedd cymeriadau pantomeim.

Dywedodd Miss Hughes wrth Newyddion S4C ei fod yn wych gweld pobl yn gwisgo fyny a bod llawer o wisgoedd creadigol yn cael eu defnyddio ar gyfer yr achlysur.

"Mae pobl yn mynd yn wyllt gyda'i dychymyg ac yn dod wedi gwisgo fel nifer o bethau gwahanol, felly rydym yn edrych ymlaen i weld hwnna hefyd," meddai.

"Dros y blynyddoedd rydym wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau lleol, mae'n wych gallu cefnogi nhw a'u gweld yn cael budd o'r arian."

Clwb nofio

Mae Anne Jones yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli mwy o bobl i fentro i'r dŵr yn amlach.

Dywedodd bod clwb nofio Bluetits yn agored i bawb a nad oes rhaid i chi nofio er mwyn gallu cymryd rhan.

"Cyfeillgarwch sydd fwya', mae'n agored i bawb. Menywod, dynion, pawb, s'dim tâl i ymaelodi," meddai.

"Ma' rhai yn mynd yn y bore bach, dwi ddim yn gweld nhw cyn bod nhw'n mynd i gwaith, dwi 'di ymddeol.

"Mae rhai yn mynd ar ôl gwaith, tua wyth o'r gloch yn y nos. Yn yr haf 'y'n ni'n cwrdd lan yn y nos, pan ma'r lleuad yn llawn a ni'n cael picnic neu rywbeth wedyn barbeciw ar y traeth.

"S'dim rhaid i chi fynd yr holl fordd mewn - ma' rhai yn mynd lan i'w pengliniau a wedyn dod mas."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.