Alun Wyn Jones wedi derbyn diagnosis o gyflwr ar y galon
Mae cyn-gapten rygbi Cymru Alun Wyn Jones, wedi dweud ei fod wedi derbyn diagnosis o gyflwr ar y galon wrth i'w yrfa ddirwyn i ben.
Mae Jones, 38, wedi galw ar i chwaraewyr gael eu sgrinio am gyflyrrau o’r fath yn amlach ar ôl cael profion cyn gorffen ei yrfa yn Toulon.
“Rydw i wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd,” meddai wrth The Telegraph.
“Cafodd y cyflwr ei ddarganfod pan ges i wiriad meddygol llawn, oedd yn cynnwys prawf ECG, pan ymunais â Toulon ym mis Gorffennaf,"
Cafodd Jones lawdriniaeth i gywiro cyflwr y galon ym mis Tachwedd, yn fuan ar ôl gorffen ei yrfa.
Ym mis Mai fe wnaeth hyfforddwr Cymru Warren Gatland enwi Jones yn ei garfan estynedig Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2023.
Ond yn fuan wedyn fe gyhoeddodd Jones, sydd wedi ennill 158 cap dros Gymru, ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.
Wedi gadael y Gweilch, ymunodd Jones â Toulon ar gytundeb tymor byr pan chwaraeodd hefyd i'r Barbariaid yn erbyn Cymru ac Abertawe.
Ychwanegodd: “Mae llawer o sôn am les mewn rygbi ar hyn o bryd, ond a yw hynny’n cwmpasu popeth?
"Does bosib bod y gamp wedi dod ymlaen i'r pwynt lle dylai chwaraewyr gael eu sgrinio'n amlach, yn enwedig ar adeg pan mae gofynion y gêm yn cynyddu.
"Roeddwn i'n ffodus iawn a byddaf yn ddiolchgar am byth i Toulon am fy arwyddo. Os nad oeddynt wedi cynnig contract i mi, efallai na fyddwn erioed wedi gwybod am y cyflwr ar fy nghalon.
"Fe wnaeth y meddyg cardiaidd ei godi'n syth bin. Roedd curiad fy nghalon fel ceffyl yn carlamu gyda chwe choes."
Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod ffibriliad atrïaidd "yn gyflwr ar y galon sy'n achosi curiad calon afreolaidd ac yn aml yn annormal o gyflym".
Cyngor
Cymerodd Jones gyngor meddygol a thrafododd y sefyllfa gyda'i wraig Anwen cyn ymrwymo i chwarae i Toulon.
“Mae’n debyg mai’r pethau sy’n gallu ei achosi i rywun fy oedran i yw ymarfer corff cardiofasgwlaidd a straen, mae’n digwydd mewn chwaraeon fel rhwyfo a chwaraeon dygnwch, ond roedd yn sioc oherwydd trwy gydol fy ngyrfa rydw i bob amser wedi ymfalchïo yn fy ffitrwydd,” meddai.
“Rwyf bob amser wedi bod mor ymroddedig i wneud pethau ychwanegol ar ôl gemau, gan weithio’n gyson ar fy ffitrwydd a gwella o anafiadau.
“Fe wnaethon ni weithredu ar gyngor meddygol o safbwynt rygbi.
"Roedd yna risg, ond roeddwn i'n barod i chwarae i Toulon. Fe ges i a Anwen sgwrs fel gŵr a gwraig.
“Efallai ei fod yn ymddangos yn benderfyniad hunanol o ystyried bod gen i dair merch ifanc, ond roedd angen i mi gymryd y cyfle."
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans