Mamau'n ceisio ymdopi â galar drwy gefnogi teuluoedd eraill
Mamau'n ceisio ymdopi â galar drwy gefnogi teuluoedd eraill
Mae dwy fam o dde Cymru a gollodd eu meibion ar ôl cael canser yn dweud fod cefnogi teuluoedd eraill yn help wrth ymdopi gyda’u galar.
Fe gollodd Natalie Ridler ei mab, Morgan eleni, a bu farw Joseph, mab Katy Yeandle, y llynedd.
Mae’r ddwy wedi sefydlu elusennau – Morgan’s Army a Joseph’s Smile.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i’r gwasanaeth iechyd ddarparu triniaethau ac offer i blant sydd eu hangen.
Mae’n bron i chwe mis ers i Natalie Ridler o Abertawe ffarwelio â’i mab, Morgan ar ôl cael diagnosis o ganser. Roedd e’n dair oed.
“Ma’ ‘na lot i fynd drwyddo gyda grief ac ymdopi gyda cholli plentyn,” dywedodd Natalie.
“Ni wedi bod drwy gymaint gyda thriniaeth Morgan a wedyn colli Morgan.
“Mae’n anodd hefyd yn dod lan i Nadolig. Fe wnaeth ein byd ni stopio.”
Pan oedd Morgan yn wynebu ei driniaethau, fe sefydlodd Natalie a’r teulu elusen o’r enw Morgan’s Army.
Dywedodd fod codi arian i helpu teuluoedd i ariannu triniaethau, offer neu gostau teithio dros y ffin i’w plant wedi bod yn gysur enfawr yn eu galar.
“Ni’n meddwl bod elusennau bach fel ni yn gallu dod mewn i ffeindio’r gaps a helpu," ychwanegodd.
“Dw i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth am Morgan nawr. Mae Morgan wedi mynd.
“Ond dw i yn gallu helpu pobl sy’n mynd drwy beth aethon ni drwyddo.”
Ym Mrynaman mae ‘na bentref Nadolig arbennig wedi ei sefydlu gan elusen Joseph’s Smile.
Mae teulu Joseph, fu farw o ganser yn dair oed ddwy flynedd yn ôl, wedi codi degau o filoedd o bunnoedd.
“Mae’n drist iawn achos ddylai dim un teulu godi arian am driniaeth neu gyfarpar sydd ddim ar gael ar [y gwasanaeth iechyd]," meddai Katy Yeandle, mam Joseph.
“Mae’n helpu fi achos dwi’n gallu cofio Joseph.
“Mae’n helpu fi just as much as the children ni’n helpu hefyd.”
Un plentyn sydd wedi elwa o gymorth elusen Joseph’s Smile yw Gwilym, 6, o Gwm Gors yn Nyffryn Aman sy’n byw a pharlys yr ymennydd.
Ar ôl cael llawdriniaeth fawr drwy’r gwasanaeth iechyd i helpu gyda’i symudedd, mae’n rhaid iddo gael ffisotherapi preifat.
“Roedden ni’n ffodus iawn i gael help o charity Joseph’s Smile. O’n nhw wedi rhoi £5,000 i ni,” meddai ei fam, Ffion.
Gyda phob sesiwn yn fwy na £150, dywedodd: “Mae’n ddrud ond mae’n rhaid i ni dalu amdano fe.
“Mae Gwilym yn gallu rhoi ei draed yn fflat am y tro cyntaf yn ei fywyd a mae ei goesau yn syth.
“Ni just mor ddiolchgar iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi gallu gwneud.”
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i wasanaethau'r NHS ddarparu mynediad at driniaethau, gan gynnwys ffisiotherapi ac offer symudedd fel cadeiriau olwyn.
“Mae'r NHS yn darparu asesiadau anghenion cyfannol i bobl sy'n cael diagnosis o ganser er mwyn helpu i nodi a diwallu anghenion cleifion.”
Ychwanegon y gall rhai cleifion cymwys wneud cais am gymorth gyda chostau teithio os oes angen triniaeth ysbyty drwy’r gwasanaeth iechyd.