Cefnogi cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Abersoch

Cefnogi cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Abersoch
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cefnogi argymhelliad i gyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022.
Bydd cyfnod gwrthwynebu yn cael ei gynnal yn fuan, lle bydd cyfle i unrhyw un gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i’r cynnig, meddai llefarydd ar ran y cyngor.
Dywed Cyngor Gwynedd fod 76% o lefydd gweigion yn yr ysgol.
Mae dyfodol yr ysgol wedi bod yn destun pryder i’r gymuned a’r cyngor ers nifer o flynyddoedd, gyda’r cyngor yn disgrifio’r sefyllfa fel un “fregus”.
O’r 32 lle yn yr ysgol, wyth o blant sy’n mynychu’n llawn amser, ac mae dau ddisgybl yn yr adran feithrin.
Dywed swyddogion y cyngor mewn dogfen ymgynghorol ar ddyfodol yr ysgol nad “yw’r rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd sylweddol i niferoedd disgyblion Ysgol Abersoch dros y blynyddoedd nesaf.”
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Abersoch yn darparu addysg i blant hyd at wyth oed, gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach ar ddechrau’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn wyth oed.
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i gefnogi’r argymhelliad, bydd rhybuddion statudol yn cael eu cyhoeddi i gau’r ysgol.
Bydd cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod wedi hyn, gydag adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i benderfynu a ddylai cadarnhau’r cynnig ai peidio.