Newyddion S4C

Apêl anrhegion Mr 'X' yn brysurach nag erioed y Nadolig hwn

22/12/2023

Apêl anrhegion Mr 'X' yn brysurach nag erioed y Nadolig hwn

Ar drothwy’r ŵyl, mae Mr ‘X’ wedi bod yn brysurach nag erioed yn dosbarthu anrhegion i blant diferintiedig ledled de Cymru. 

Dyma apêl am anrhegion a gafodd ei sefydlu gan ddyn anhysbys lleol o Abertawe, 64 mlynedd yn ôl.

Mae’r cynllun yn dosbarthu anrhegion i blant a theuluoedd lleol adeg y Nadolig.

Yn ôl gor-wyres y Mr ‘X’ di-enw, Isabelle Crocker, cafodd yr aepl ei sefydlu er mwyn helpu plant mewn angen dros yr wyl.  

“Roedd e wedi dechrau gyda merch o’r enw Francessca odd hen dad-cu wedi cwrdd â hi mewn orphanage," meddai.

“A roedd e wedi edrych rownd a doedd neb yn cael anrhegion nath e ddechrau teimlo’n flin iddyn nhw so odd e ‘di dechrau apel i blant mewn angen sydd ddim yn cael anrhegion nadolig,

“A nawr ma Mr X yma - mae’n masif.”

Roedd yn galw ei hun yn Mr ‘X’ er mwyn cynnal hud yr ŵyl i blant yr ardal ond yn dilyn marwolaeth hen-dadcu Isabelle, cafodd hunaniaeth y sefydlwr ei ddatgelu. 

Ei deulu ef sydd nawr yn rhedeg yr apêl ond maen nhw’n awyddus iawn i barhau gyda’r elfen gyfrinachol.

Tyfu

Erbyn hyn, mae’r apêl yn cefnogi dros 8,000 o blant bob blwyddyn, gyda’r galw yn cynyddu. 

Er nad yw Mr 'X' ei hun yno i barhau y gwaith, dywedoidd Isabelle Crocker ei fod wedi goroesi oherwydd bod rhoi anrhegion dros y Nadolig yn "teimlo'n gywir" i bobl. 

"Mae’n tyfu bob blwyddyn," meddai. "Ma mwy a mwy o anrhegion yn dod bob blwyddyn. 

"Ni’n dechrau tyfu rownd y wlad nawr, so ni’n dechrau mynd i llefydd newydd."

Mae’r gwirfoddolwyr Mr ‘X’ yn gweithio ar draws sawl ardal – gan gynnwys Castell-Nedd Gwyr, Clydach, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Maent yn cludo’r holl anrhegion o brif hwb Mr ‘X’ yn Abertawe, i ganolfannau ledled de Cymru. 

Image
Mr 'X' anrhegion

System

Ychwanegodd Isabelle bod system arbennig er mwyn cadw trefn ar yr holl gyfraniadau. 

Mae ysgolion, cartrefi maeth a gofalwyr cymdeithasol yn rhoi gwybod faint o blant sydd mewn angen.

Yna caiff bobl gyfeirnod unigryw, oedran ac enw cynta'r plentyn er mwyn casglu’r anrhegion mwyaf addas i’w rhoi.

“Ma nhw’n cal rhifau ar Facebook a social media a ma' nhw gyda lists o enwau gyda reference numbers pobl," meddai.

“Chi’n dweud pa oedran chi mo'yn prynu am a wedyn chi’n cal enw a reference number, chi’n rhoi e ar y tag a chi’n dropo fe bant ar un o drop off points ni.” 

Ond gyda'r system hyn, yn aml mae gormod o bobl yn gofyn i brynu i’r un oedrannau.

“Ma’ ‘na bryder weithiau bod merched a bechgyn ym eu harddegau ddim yn mynd i gael digon," meddai Isabelle.

"Dyw’r oedrannau ‘na, ma pobl ddim mor awyddus i brynu iddyn nhw. 

"Ma pawb eisiau prynu i blant bach, o dair i chwe mlwydd oed fel arfer – dyna’r oedrannau mwyaf poblogaidd."

Lleihau straen

Dyma gynllun sy’n helpu i leihau’r ‘straen’ yn ystod cyfnod ‘caled’ meddai Isabelle.

“Fan hyn ma' plant yn gallu cael anrhegion a ma' nhw ddim yn gorfod stryglan i ga'l anrhegion bob blwyddyn," meddai.

“A ma' fe’n rhoi llai o straen ar y rhieni hefyd so ma' hwnna’n hyfryd. 

“Yn enwedig amser y Nadolig – ma' amser y Nadolig yn galed, ma' fe’n hwyl ond ma' fe’n galed.”

Nid yn unig cyn y Nadolig mae pobl yn cyfrannu, ond mae caredigrwydd pobl yn parhau yn y flwyddyn newydd hefyd, medd Isabelle. 

“Ar ôl Nadolig ma' anrhegion yn dal i ddod mewn a os ma fe ddim yn bwyd, ma fe’n gallu cadw at y flwyddyn nesaf," meddai.

“Ma' fe’n mynd mewn i ystafell sydd gyda anrhegion sbar a wedyn ma rheina’n cael eu gwasgaru mas i blant sydd ddim gyda llawer o anrhegion yn eu bagiau nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.