Newyddion S4C

Galwad i 'ddiogelu neges graidd Eisteddfod Llangollen' wrth foderneiddio

Newyddion S4C 19/12/2023

Galwad i 'ddiogelu neges graidd Eisteddfod Llangollen' wrth foderneiddio

Mae angen sicrhau nad yw newidiadau i strwythur Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn tanseilio gwir bwrpas a neges yr ŵyl, medd y rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig â hi ers blynyddoedd.  

Gyda disgwyl enwogion fel Tom Jones, Kathryn Jenkins a Paloma Faith i droedio’r llwyfan yr haf nesa, mae un o gyn aelodau’r bwrdd, Iwan Llewelyn Jones yn dweud bod angen parhau i geisio denu pobl ifanc a chefnogi artistiaid Cymreig a Chymraeg.

Ers sawl blwyddyn mae’r ŵyl wedi profi trafferthion ariannol a arweiniodd at Gyfarwyddwr yr Ŵyl, Camilla King yn colli ei gwaith dros yr haf.

Yn ôl aelodau newydd y bwrdd mi fydd y newidiadau yn diogelu'r “eisteddfod graidd” ond maen nhw yn cydnabod fod angen moderneiddio er mwyn diogelu dyfodol yr ŵyl.

Mae’r ŵyl sy’n digwydd bob haf yn Llangollen wedi denu enwau mawr yn 2024 gyda’r Kaiser Chiefs a Gregory Porter yn arwain rhai o’r cyngherddau mwyaf.

Image
Pafiliwn Llangollen
Pafiliwn Llangollen

Ochr yn ochr â hynny mi fydd cystadleuwyr o ben draw’r byd yn dod i’r gogledd ddwyrain er mwyn cystadlu, ac yn ôl un o gyn aelodau bwrdd yr Eisteddfod mae angen sicrhau nad yw gwir bwrpas yr ŵyl yn cael ei thanseilio .

“O weld y rhaglen mae’n hynod anturus ond dwi ddim yn shwr os ydwi’n gweld y pwyslais ar gael yr ieuenctid yna”, meddai Iwan Llewelyn Jones.

“Hefyd un o’r cwestiynau sy’n dod i’n meddwl ydi be ‘di’r gwahaniaeth rhwng Eisteddfod a festival ac efo rhaglen yr artistiaid fel da ni’n gweld, mae’r teitl yn gwyro tuag at festival ac mae rhaid iddyn nhw ystyried o ddifri sut mae nhw’n cefnogi diwylliant Cymraeg ac artistiaid, cyfansoddwyr Cymraeg”.

Mae’r ŵyl eleni yn cynnal partneriaeth gyda chwmni preifat er mwyn denu enwau mwy, gyda’r gobaith y bydd yn denu cynulleidfaoedd ehangach a gwahanol wrth geisio creu elw.

Er hyn, mynnu mae aelodau newydd y bwrdd y bydd y bydd yr iaith Gymraeg ac ethos gwreiddiol yr ŵyl yn rhan holl bwysig wrth i’r Eisteddfod ddatblygu.

“Mae’n rhaid inni edrych ar ôl yr Eisteddfod graidd”, medd Dr Rhys Davies sy’n cefnogi’r gwaith trefnu.

“Yn enwedig y neges heddwch a’r ethos”, meddai.

Wrth i’r ŵyl fynd ar gyfeiriad gwahanol eleni, mae nhw’n gobeithio y bydd mwy o elw yn dod i’r economi leol, ac yn ôl yr ŵyl fe allai fod yn “ddegau o filiynau o bunnoedd”.

Ers ei sefydlu ym 1947 wedi’r ail ryfel byd mae’r ŵyl wedi newid a datblygu mewn sawl ffordd.

Un sydd wedi bod yn dyst i rai o’r newidiadau hynny ydi Myron Lloyd sy’n wyneb cyfarwydd i’r ŵyl.

Image
Myron Lloyd pan yn ifanc
Myron Lloyd pan yn ifanc

Ar ôl cystadlu pan yn ferch ifanc fe gafodd ei llun ei ddefnyddio gan yr ŵyl i hysbysebu digwyddiadau am flynyddoedd wedyn a hithau erbyn hyn wedi symud i’r ardal ac yn un sy’n trefnu.

“Mi oedd o’n dipyn o wefr wrth gerdded allan ar y llwyfan”, meddai Myron Lloyd.

Wrth ddangos rhai o’i hen luniau ma’n dweud fod yr Eisteddfod yn dod a balchder enfawr i’r fro.

“Mi oedd hi’n fwy gwerinol bryd hynny”, meddai.

Ychwanegodd y bydd yr ŵyl y flwyddyn nesa yn gyfle i ail gydio yn llawn yn y cystadlu wedi rhai blynyddoedd heriol.

Prif Lun: Myron Lloyd a Dr Rhys Davies
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.