Newyddion S4C

Ras arweinyddiaeth Llafur Cymru: Hannah Blythyn ac Eluned Morgan ddim am sefyll

15/12/2023
Hannah Blythyn a Eluned Morgan

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn y ras arweinyddiaeth Llafur Cymru i olynu Mark Drakeford. 

Mewn datganiad dywedodd ei bod hi'n "ddiolchgar am y gefnogaeth" ond ni fydd yn sefyll yn y ras.

Ychwanegodd: "Mae ein cymunedau a’n gwlad yn parhau i wynebu cyfnod cythryblus gyda phwysau ariannol digynsail ar ein gwasanaethau cyhoeddus, diolch i 13 mlynedd o galedi gan y Torïaid. 

"Rwy’n credu mai Jeremy [Miles] yw’r person iawn i’n harwain drwy’r heriau presennol hyn a symud ein gwlad ymlaen.”

Daw hyn wedi i'r gweinidog iechyd Eluned Morgan gyhoeddi yn gynharach ddydd Gwener na fydd yn sefyll yn y ras arweinyddiaeth Llafur Cymru chwaith.

Hi oedd yr unig ymgeisydd benywaidd i sefyll i fod yn Brif Weinidog yn 2018 gan ddod yn drydydd bryd hynny gydag 22% yn unig o'r bleidlais.

Mewn datganiad dywedodd ei bod hi "ar ôl ystyried yn ofalus" wedi penderfynu peidio sefyll.

Daw ei phenderfyniad meddai er iddi gael "cefnogaeth nifer o ASau, aelodau o Senedd Cymru, cynghorwyr ac aelodau o'r blaid".

"Ar hyn o bryd rydw i am ganolbwyntio'n llwyr ar lywio'r gwasanaeth iechyd drwy beth fydd un o'r gaeafau mwyaf heriol," meddai.

Yr unig ymgeisydd i gadarnhau y bydd yn sefyll hyd yma yw'r gweinidog economi Vaughan Gething.

Mae'r gweinidog addysg a'r Gymraeg Jeremy Miles hefyd wedi derbyn digon o gefnogaeth gan ei gyd-aelodau o Senedd Cymru i sefyll.

Eluned Morgan oedd y mwyaf amlwg o'r darpar-ymgeiswyr benywaidd yn ei phlaid.

Mae ganddi CV gwleidyddol hir gan gynnwys bod yn Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1994 a 2009 a Thŷ’r Arglwyddi o 2011 ymlaen.

Mae wedi cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y rhestr ers 2016, ac wedi bod yn weinidog addysg a'r iaith Gymraeg yn ogystal.

Fe fydd Mr Drakeford yn gadael ei swydd fel arweinydd y Blaid Lafur ym mis Mawrth a bydd arweinydd newydd yn cael ei ethol erbyn y Pasg.

Roedd hi'n union bum mlynedd ddydd Mercher ers i Mark Drakeford gychwyn yn swydd y Prif Weinidog yn 2018.

Roedd y gwleidydd 69 oed eisoes wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu ryw bryd yn 2024.

Pwy sy’n cefnogi pwy?

Y bore 'ma fe gyrhaeddodd Jeremy Miles y trothwy o ran cefnogaeth gan Aelodau o Senedd Cymru i sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Mae angen cefnogaeth pum aelod o’r Senedd er mwyn i ymgeiswyr allu ymuno â’r ornest a fydd yn y pen draw yn penderfynu ar Brif Weinidog nesaf Cymru.

Mae Mr Miles, sy’n weinidog y Gymraeg ac addysg, yn un o'r ceffylau blaen i olynu Mark Drakeford wedi iddo gyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu yn y flwyddyn newydd.

Fore Gwener roedd gan Vaughan Gething gefnogaeth yr aelodau canlynol o’r Senedd:

  • Rebecca Evans
  • Jayne Bryant
  • Hefin David
  • Vikki Howells
  • Ken Skates
  • Joyce Watson
  • Dawn Bowden
  • Lynne Neagle


Mae’r canlynol wedi datgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles:

  • Julie James
  • Buffy Williams
  • David Rees
  • Huw Irranca Davies
  • Lesley Griffiths

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.