Newyddion S4C

Dyn aeth ar goll ar ôl taith i arfordir Sir Benfro yn codi arian i’r rhai fu'n chwilio amdano

07/11/2024
Chris Ellery

Mae dyn aeth ar goll ar ôl taith oddi ar arfordir Sir Benfro wedi diolch i’r bad achub ac wedi sefydlu tudalen codi arian ar eu cyfer.

Roedd ymdrech chwilio mawr wedi i Chris Ellery beidio â dychwelyd o Abergwaun ddydd Iau diwethaf.

Ar ôl “taith anodd” mewn cwch cyrhaeddodd y dyn 54 oed o Fryste orsaf heddlu yn Swydd Wicklow ar ben arall Môr Iwerddon.

Dywedodd swyddogion yno ei fod yn “flinedig ond yn iawn fel arall”.

Mae bellach wedi sefydlu tudalen GoFundMe i ddiolch i’r rhai a fu’n chwilio amdano.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: “Dim ond i adael i bawb wybod fy mod i yn ôl yn y DU yn ddiogel.

“Hoffwn fynegi diolch enfawr i bawb am eich negeseuon caredig a’ch cefnogaeth a gadwodd fy nheulu a fy ffrindiau i fynd yn ystod y dyddiau anodd hyn."

Ychwanegodd: "Un diwrnod byddaf yn rhannu'r daith anodd a brofais ar draws Môr Iwerddon,” ond dywedodd ei fod am ganolbwyntio ar “yr ochr bositif” am y tro.

Ychwanegodd ei fod yn “emosiynol iawn” wrth glywed lleisiau ei deulu ar ôl cysylltu â nhw wedi iddo gyrraedd Iwerddon.

Taith

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau fod Mr Ellery wedi cychwyn o Sir Benfro ddydd Iau gan ddisgwyl dychwelyd y diwrnod canlynol.

Ond wrth iddo deithio tua’r gorllewin roedd problemau wedi datblygu gydag injan ei gwch 10 troedfedd o hyd.

Roedd ei ffôn hefyd wedi stopio gweithio.

"Daeth i'r lan yn Sir Wicklow a gwneud ei ffordd i orsaf heddlu lleol. Fe wnaethon nhw gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys,” meddai’r llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.