Newyddion S4C

Elon Musk yn y Tŷ Gwyn? Trump yn dechrau llunio ei lywodraeth newydd

07/11/2024
Donald Trump ac Elon Musk

Mae’n bosibl y bydd y biliwnydd Elon Musk ymysg y rheini a fydd yn cael eu penodi i rolau newydd yn llywodraeth yr Arlywydd nesaf, Donald Trump.

Mae disgwyl i’r Gweriniaethwr Mr Trump ddechrau llunio ei lywodraeth newydd ar ôl ennill yr etholiad ddydd Mawrth yn erbyn ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd Kamala Harris.

Mewn datganiad, dywedodd cyd-gadeiryddion y broses o lunio llywodraeth nesaf Mr Trump, Linda McMahon a Howard Lutnick, y byddan nhw’n cyflwyno “ystod eang o arbenigwyr y gall ddewis ohonynt ar gyfer ei dîm”.

Mae Donald Trump hefyd wedi dweud ei fod eisiau i Elon Musk, y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd sy’n berchen ar y cyfrwng cymdeithasol X, gael rôl yn ei weinyddiaeth.

Ymhlith enwau eraill y mae disgwyl iddyn nhw fod mewn swyddi allweddol mae Robert F Kennedy Jr, nai’r cyn-arlywydd John F Kennedy, sydd wedi codi amheuon am ddiogelwch brechlynnau.

Mewn araith nos Fercher, fe wnaeth Kamala Harris addo y byddai’r broses o drosglwyddo grym o weinyddiaeth Ddemocrataidd Joe Biden i Donald Trump yn un “heddychlon”.

“Rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn teimlo ein bod yn mynd i mewn i amser tywyll, ond er budd pob un ohonom, gobeithio nad yw hynny’n wir,” meddai mewn araith ym Mhrifysgol Howard, Washington D.C.

Fe wnaeth y Gweriniaethwyr hefyd adennill rheolaeth ar Senedd UDA; maent hefyd yn arwain yn yr ornest i reoli Tŷ’r Cynrychiolwyr, ond gallai gymryd dyddiau i gael canlyniad terfynol.

Mae’n golygu y gall Donald Trump fod â rhwydd hynt i wneud fel y mynno fel arlywydd gyda rheolaeth dros bob cangen o’r llywodraeth.

Mae’r Adran Gyfiawnder, a chwnsler arbennig yr Unol Daleithiau, Jack Smith, mewn trafodaethau ynghylch dirwyn erlyniadau ffederal yn erbyn Donald Trump i ben, yn ôl gwasanaeth newyddion CBS.

Mae’n rhan o bolisi hirsefydlog o beidio ag erlyn arlywyddion.

Fe fydd Donald Trump yn cael ei urddo yn arlywydd yn ffurfiol ar 20 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.