Honiadau bod Cadeirydd S4C wedi 'ymddwyn yn anaddas' wrth weiddi ar gyn-swyddog
Honiadau bod Cadeirydd S4C wedi 'ymddwyn yn anaddas' wrth weiddi ar gyn-swyddog
Fe wnaeth Cadeirydd S4C ymddwyn yn "anaddas" wrth "dorri ar draws" a "gweiddi" ar gyn-bennaeth cynnwys y sianel mewn cyfarfod ar 15 Mehefin eleni, yn ôl dogfennau ddaeth i law rhaglen Newyddion S4C.
Daeth Llinos Griffin-Williams â chwyn yn erbyn y Cadeirydd, Rhodri Williams ym mis Mehefin.
Cafodd Ms Griffin ei diswyddo ar ôl cael ei chyhuddo o gamymddwyn difrifol mewn digwyddiadau yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref.
Mae hi wedi gwadu camymddwyn ac yn dweud bod ei diswyddiad yn "annheg".
Dywed Awdurdod S4C fod y mater wedi ei ddelio ag o ym mis Mehefin a bod y Cadeirydd wedi ymddiheuro am godi ei lais mewn cyfarfod o'r bwrdd.
Mae dogfennau sydd wedi eu rhannu gyda rhaglen Newyddion S4C yn manylu ar dystiolaeth sawl un oedd yn y cyfarfod ar 15 Mehefin, ac yn amlygu'r tensiynau dwfn o fewn y sefydliad ar y pryd.
Mae ymchwiliad gan gwmni effectusHR gafodd ei gwblhau ym mis Gorffennaf eleni yn adrodd i Llinos Griffin-Williams honni i Gadeirydd S4C "weiddi a sgrechian yn fygythiol" ati, a'i gadael "wedi ei siglo yn gorfforol, yn crio...ac yn dioddef curiad calon cyflym ac anghyson."
Dywedodd wrth yr ymchwilwyr i Rhodri Williams "gamddefnyddio ei bŵer yn llwyr" a'i fod yn "fygythiol ac yn bwliaidd."
Dywed yr adroddiad hefyd bod Rhodri Williams ac aelodau staff eraill S4C yn ymwybodol o gyflwr iechyd difrifol sydd yn effeithio ar Ms Griffin-Williams ac i adroddiad iechyd galwedigaethol argymell "na ddylai gael ei rhoi dan unrhyw straen".
Digwyddodd y ddadl ar 15 Mehefin eleni, pan ofynnodd aelodau tîm rheoli S4C am gyfarfod gydag aelodau anweithredol y bwrdd i drafod cyfathrebu a chynlluniau gwaith wrth i ymchwiliad Capital Law i honiadau o fwlio yn erbyn y tîm rheoli fynd ymlaen.
Sbardun yr ymchwiliad hwnnw oedd llythyr at aelodau anweithredol y bwrdd gan undeb Bectu ym mis Ebrill eleni.
Ymchwiliad
Diswyddwyd Prif Weithredwr y sianel Sian Doyle fis diwethaf wedi iddi gael ei chyhuddo o greu "diwylliant o ofn" yn S4C yn dilyn ymchwiliad.
Dywedodd adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law a gafodd ei gyhoeddi ychydig dros wythnos yn ôl fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig Sian Doyle "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".
Dywedodd yr adroddiad fod “amgylchedd gwaith” S4C wedi ei effeithio'n "negyddol” gan yr honiadau gan achosi “anhrefn, anfodlonrwydd ac anghytuno".
Wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd gŵr Sian Doyle ddatganiad yn dweud iddi gael ei rhuthro i'r ysbyty wedi iddi gymryd gorddos. Roedd hi wedi dweud cyn hynny nad oedd hi'n "cydnabod nac yn derbyn" honiadau adroddiad Capital Law.
'Safonau'
Wrth roi tystiolaeth i effectusHR, honodd Rhodri Williams na wnaeth Llinos Griffin-Williams "gwrdd â'r safonau disgwyliedig ar gyfer rhywun ar ei lefel hi".
Dywedodd iddi "ddatgelu data categori arbennig" [manylion cyflwr iechyd cydweithiwr] a'i bod hi wedi "mynnu parhau i siarad" wedi iddi gael cais "i fod yn dawel".
Yn ei thystiolaeth hi, dywedodd Llinos Griffin-Williams ei bod "wedi ymddiheuro" a'i bod hi "yn trafod gwybodaeth yn ymwneud ag ymholiad gan y wasg oedd wedi cyrraedd y bore hwnnw."
Dywedodd Mr Williams "nad yw hwn yn ddigwyddiad un ffordd...y peth cyntaf dywedais oedd 'mae'n flin gyda fi dorri ar eich traws...dw'i ddim yn credu bod hwn yn fater dylir ei drafod' a dim ond wedi i hynny gael ei anwybyddu y tro cyntaf, a'i anwybyddu am eildro, dim ond bryd hynny godais i fy llais".
Fe wnaeth llythyr anfonwyd ar ran y cyn-Aelod Seneddol Guto Bebb, a ymchwiliodd i'r digwyddiad ar ran Awdurdod S4C "gadarnhau" cwyn Ms Griffin-Williams i'r "Cadeirydd dorri ar draws, a chodi ei lais yn ystod y cyfarfod".
Mae'n canfod bod "gweithredoedd o'r fath yn anaddas ac wrth wneud hynny, ni ddangosodd ddigon o ystyriaeth i iechyd a lles [Llinos Griffin-Williams]."
Ymddiheuriad
Fe wnaeth Rhodri Williams ebostio Llinos Griffin-Williams gydag ymddiheuriad. Mewn datganiad ar ôl cyhoeddi adroddiad Capital Law, fe ddywedodd aelodau anweithredol y bwrdd:
"Rydym wedi bod yn sensitif i wrthdaro buddiannau posibl ar gyfer y Cadeirydd. Adolygwyd y materion hyn gan Aelodau'r Awdurdod, yn annibynnol ar y Cadeirydd, a gwnaethom ymdrin â hwy yn unol â hynny.
"Cytunwyd nad oeddent yn teilyngu unrhyw gamau pellach ac na fyddent yn atal y Cadeirydd rhag cymryd rhan yn yr adolygiad parhaus. Mae pob penderfyniad sy'n deillio o'r broses hon wedi bod yn unfrydol."
Dywedodd Llinos Griffin-Williams wrth Newyddion S4C "nad oedd hi'n ddigon cryf i gael ei chyfweld ar gamera".
"Roedd camu mewn i S4C yn fraint" meddai "Ond mae fy nhriniaeth gan y Cadeirydd a fy niswyddiad annheg i'r misoedd o gam-drin pŵer wedi fy nhorri."
"Rwyf wedi fy nhorri. Does dim geiriau am y tristwch dwi'n ei deimlo.
"Mae'n rhaid iddo fod yn atebol, mae'n rhaid i S4C gael ei warchod."
Mewn ymateb i'r digwyddiad ym mis Mehefin, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C: “Deliwyd â chyhuddiad o ymddygiad amhriodol yn erbyn Cadeirydd gan yr Awdurdod ym mis Mehefin 2023, ac yn dilyn hynny fe ymddiheurodd am godi ei lais mewn cyfarfod o’r bwrdd.
“Ni ddaethpwyd i’r casgliad ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd fygythiol, ymosodol, oedd yn fath o fwlio. Cafodd y mater ei ddatrys a'i gwblhau bryd hynny.
“Bu nifer o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ar y mater hwn yn anghywir, ac rydym yn siomedig bod gwybodaeth am broses gyfrinachol, fewnol wedi’i rhannu gyda'r wasg.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb S4C ac adran ddiwylliant Llywodraeth y DU, sydd yn apwyntio Cadeirydd S4C.