Newyddion S4C

Dyn 'wnaeth daflu dros £600m mewn Bitcoin i ffwrdd' yn colli achos i'w adfer

James Howells

Mae dyn o Gymru sydd yn honni ei fod wedi colli dros £600 miliwn mewn Bitcoin ar ôl danfon cof cyfrifiadur oedd yn cynnwys yr arian i safle tirlenwi ar ddamwain wedi colli achos i geisio ei gael yn ôl.

Mae Bitcoin yn fath o arian digidol, neu cryptocurrency.

Roedd James Howells wedi mynd â Chyngor Dinas Casnewydd i'r llys mewn ymgais i orfodi'r cyngor i chwilio am y ddisg galed.

Dywedodd y dylai fod hawl ganddo i gael ddyfais yn ôl neu y dylai'r cyngor dalu iawndal yr arian mae wedi ei golli.

Wrth daflu'r achos allan ddydd Iau dywedodd y Barnwr Andrew Keyser KC nad oedd gan Mr Howells "unrhyw sail resymol" i'r achos ac nad oedd ganddo "gyfle realistig o lwyddo pe bai'n mynd i'r llys."

'Fforffedu perchnogaeth'

Mae Mr Howells eisoes wedi dweud wrth yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ei fod wedi creu 8,000 Bitcoin yn 2009 a'i storio ar gof y cyfrifiadur yr oedd yn cadw mewn drôr yn ei dŷ.

Wrth glirio ei dŷ yn 2013 fe osododd y disg galed mewn bag du yn meddwl ei fod yn ddisg galed wahanol oedd yn wag. Fe wnaeth ei bartner fynd â'r bag hwnnw i'r safle tirlenwi.

Penderfynodd edrych am y ddyfais rai misoedd yn ddiweddarach ar ôl i werth ei Bitcoin godi i dros £9 miliwn.

Ond fe wnaeth ddarganfod bod y ddyfais yn y bag du aeth i safle tirlenwi Docksway yng Nghasnewydd.

Roedd nifer o geisiadau i'r cyngor i ddod o hyd i'r ddisg galed wedi eu hanwybyddu, meddai, er gwaethaf ei gynnig i roi 10% o werth y Bitcoin iddyn nhw pe bai'n cael ei ddarganfod.

Fel rhan o'i ymgais i ddod o hyd iddo roedd wedi casglu tîm o arbenigwyr oedd yn honni eu bod wedi dod o hyd i'r ddyfais ar y safle maint 350,000 tunnell ac yn gallu cael mynediad iddo heb unrhyw gost i'r cyngor.

Cafodd y cais hwn ei wrthod gan y cyngor, gan ei fod yn gallu achosi risg i bobl a'r amgylchedd ac yn torri amodau eu trwydded gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, medden nhw.

Ychwanegodd y cyngor fod Mr Howells wedi rhi'r gorau i'w berchnogaeth o'r ddisg galed wrth ei daflu i ffwrdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.