Newyddion S4C

Carchar wedi'i ohirio i reolwr pêl-droed o Fôn am ddyrnu llumanwr

Carchar wedi'i ohirio i reolwr pêl-droed o Fôn am ddyrnu llumanwr

Mae cyn-reolwr pêl-droed wedi cael dedfryd o garchar wedi'i ohirio ar ôl i lumanwr gael ei ddyrnu yn ystod gêm rhwng Penrhyndeudraeth ac Amlwch ar Ynys Môn fis Ebrill y llynedd.

Plediodd Robert Williams-Jones o Laneilian yn euog i gyhuddiad o ymosod yn Llys Ynadon Caernarfon.

Fe fydd yn rhaid iddo gyflawni 150 awr o waith di-dâl yn ogystal â thalu iawndal o £1,000.

Yn dilyn y gêm fe gyhoeddodd CPD Tref Amlwch eu bod wedi torri cysylltiadau gyda Williams-Jones, gan ymddiheuro i Benrhyndeudraeth a'r llumanwr.

Dywedodd y clwb mewn datganiad ar y pryd: "Fel clwb rydyn ni wedi bod yn wirioneddol drist gan ddigwyddiadau'r penwythnos.

"Rydym yn ymddiheuro i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Penrhyndeudraeth, ond neb yn fwy na'r llumanwr dros dro yr ymosodwyd arno gan aelod o'n tîm.

"Fel clwb rydym yn condemnio ymddygiad o'r fath ac wedi torri pob cysylltiad â'r hyfforddwr dan sylw ar unwaith."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.