Newyddion S4C

Un person wedi marw ar ôl i dân ddinistrio tŷ ym Merthyr

Tan mewn ty ym Mhenydarren

Mae un person wedi marw ar ôl i dân ddinistrio tŷ yn ne Cymru.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ ym Mhenydarren, Merthyr Tudful ddydd Mercher.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru "weithio i reoli'r tân a'i atal rhag lledaenu i dai eraill."

Disgrifiodd y gwasanaeth tân y digwyddiad fel un "heriol iawn."

Fe fydd ymchwiliad sydd yn cael ei gefnogi gan Heddlu De Cymru yn ceisio dod i hyd i'r hyn achosodd y tân, meddai'r Gwasanaeth Tân.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.