Cyhuddo HSBC o ddangos ‘dirmyg’ tuag at siaradwyr Cymraeg
Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi cyhuddo HSBC o ddangos “dirmyg” tuag at eu cwsmeriaid ar ôl penderfynu cau llinell cymorth iaith Gymraeg.
Dywedodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd eu bod nhw’n “ymbil” ar HSBC i wrthdroi ei phenderfyniad.
Daw’r alwad ar ôl i José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC, ymddangos i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor, ddiwedd mis Tachwedd.
Bryd hynny dywedodd y bydd y penderfyniad i ddileu llinell ffôn Gymraeg y banc yn arwain at wasanaeth gwell i gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
Dywedodd bod y llinell Gymraeg wedi ei "thanddefnyddio'n sylweddol", gan dderbyn 22 galwad y dydd yn unig ar gyfartaledd.
Ond fe ychwanegodd mai dim ond 6% o’r galwadau i’r llinell oedd yn cael eu hateb yn Gymraeg.
'Camliwio'r ffeithiau'
Mewn llythyr ddydd Llun dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor y Senedd, fod hyn yn dangos “dirmyg” ar gwsmeriaid.
“Mae nifer isel yr alwadau y mae HSBC yn cyfeirio atynt yn dangos anallu eich banc i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy'n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith,” meddai.
“Credwn fod hyn yn dangos lefel o ddirmyg tuag at gwsmeriaid HSBC, a bod iaith a rhesymeg y banc ynghylch y penderfyniad i gau’r Gwasanaeth yn annidwyll.
“Effaith gweithredoedd HSBC yw gwthio siaradwyr Cymraeg allan mewn ffordd lechwraidd.
“Mae awgrymu bod y penderfyniad i gau'r Gwasanaeth oherwydd gostyngiad yn y defnydd ohono yn camliwio’r ffeithiau.
“O ganlyniad i hyn, byddem yn ailadrodd mor gryf â phosibl ein galwadau i HSBC ailystyried y penderfyniad i gau’r Gwasanaeth.”
‘Mwy o alwadau’
Wrth siarad â’r pwyllgor diwylliant ym mis Tachwedd dywedodd Jose Carvalho eu bod nhw’n sefydlu gwasanaeth galw yn ôl newydd a fyddai yn “gwarantu” bod ceisiadau yn cael eu hateb yn Gymraeg o fewn tridiau.
Dywedodd fod ganddyn nhw ar hyn o bryd dri aelod o staff oedd yn ateb galwadau Cymraeg a Saesneg, oedd yn golygu mai "dim ond 6% o'r galwadau yn Gymraeg oedd yn cael eu hateb yn yr iaith".
"Trwy'r gwasanaeth galw'n ôl gallwn warantu bod pobl yn derbyn gwasanaeth yn Gymraeg,” meddai.
“Felly bydd mwy o alwadau yn Gymraeg.”
‘Teimladau cryf’
Dywedodd Delyth Jewell yn ei llythyr eu bod nhw fel aelodau yn parhau i “ymbil’ ar HSBC i newid y penderfyniad.
Mynegodd hefyd bryderon am yr angen i ddiogelu a chefnogi cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn sgil y penderfyniad i gau'r Gwasanaeth.
“Bydd HSBC yn ymwybodol o’r teimladau cryf ymhlith Aelodau’r Pwyllgor am benderfyniad diweddar y banc, a bod Aelodau o bob plaid wleidyddol yn y Senedd hefyd yn rhannu’r teimlad hwn,” meddai.
“Mae methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â'i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr, ac mae potensial i hyn gael effaith sylweddol ar eich cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.”
'Ymrwymedig'
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC eu bod nhw’n “parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg”.
“Ond oherwydd y lefel eithriadol o isel o alwadau i’n llinell Gymraeg pwrpasol – llai na dau ddwsin o alwadau’r dydd ar gyfartaledd – mae angen i ni wneud newidiadau.
“Os yw cwsmer eisiau siarad â siaradwr Cymraeg, mae modd trefnu hynny o hyd.
“Byddwn hefyd yn parhau i gael cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn hanner ein canghennau Cymreig a byddwn yn parhau i ymateb i ohebiaeth cwsmeriaid drwy gyfrwng yn Gymraeg.
“Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor, ac fe fyddwn ni’n ysgrifennu atynt yn fuan.”