Yr Unol Daleithiau i wneud 'rhai newidiadau' i'w cynllun heddwch ar ôl trafodaethau gydag Wcráin

Andrii Yermak a Marco Rubio
Andrii Yermak a Marco Rubio

Mae diplomyddion yr Unol Daleithiau wedi dweud y byddan nhw'n gwneud "rhai newidiadau" i'w cynllun i ddod â'r rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin i ben ar ôl trafodaethau yng Ngenefa.

Daw'r newyddion ar ôl i gynghreiriaid Wcráin ddweud y gallai'r cynllun heddwch fod yn sail i sgyrsiau, ond bod angen "gwaith ychwanegol" arno.

Fe aeth ysgrifennydd gwladol America, Marco Rubio, i Genefa ddydd Sul i drafod y cynllun heddwch gyda chynrychiolwyr Wcráin ei hun.

Erbyn hyn mae Rubio yn dweud bod yr Unol Daleithiau yn gwneud "rhai newidiadau" i'r cynllun heddwch.

"Mae gennym ni gynnyrch gwaith da iawn a oedd eisoes wedi'i adeiladu ar sylfaen o fewnbwn gan yr holl bartïon perthnasol dan sylw yma, ac roedden ni'n gallu mynd trwy rai o'r eitemau hynny nawr, pwynt wrth bwynt," meddai.

"Ac rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd da. Mae ein timau bellach wedi mynd i'w hystafelloedd wrth i ni weithio ar rai o'r awgrymiadau a gynigiwyd i ni, felly rydym ni'n gweithio trwyddynt, gan wneud rhai newidiadau.

"Y gobaith yw lleihau'r gwahaniaethau ymhellach a dod yn agosach at rywbeth y mae Wcráin, ac yn amlwg yr Unol Daleithiau, yn gyfforddus iawn ag ef."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod gwaith i'w wneud o hyd, ac efallai y bydd ganddyn nhw ddiweddariad pellach yn ddiweddarach.

Pwysleisiodd hefyd y byddai angen i Arlywydd America, Donald Trump, roi sêl bendith i unrhyw gynllun.

Dywedodd Andrii Yermak, sy'n arwain y trafodaethau ar ran Wcráin, fod y trafodaethau wedi bod yn "gynhyrchiol iawn" hefyd.

"Rydym wedi gwneud cynnydd da iawn, ac rydym yn symud ymlaen at heddwch cyfiawn a pharhaol," meddai.

"Mae pobl Wcráin yn haeddu ac eisiau'r heddwch yma yn fwy nag unrhyw un arall."

Pwysleisiodd Yermak ei fod yn diolch "i'n ffrindiau mawr" yr Unol Daleithiau a'r Arlywydd Trump.

Ond fel Rubio, mae Yermak yn dweud y bydd y gwaith yn parhau.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.