Dafydd Wigley, Ieuan Wyn Jones a Joanna Scanlan yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Bydd y gwleidyddion Yr Arglwydd Dafydd Wigley ac Ieuan Wyn Jones a’r actores Joanna Scanlan yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Mae’r gantores Leah Owen a’r arweinydd diwydiant coedwigaeth, Trefor Owen, hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr o unigolion fydd yn derbyn graddau er anrhydedd yn seremonïau graddio’r gaeaf y Brifysgol.
Bydd y ddau gyn arweinydd Plaid Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Wigley a Ieuan Wyn Jones, yn derbyn graddau er anrhydedd Doethur mewn Llên ac y Gyfraith, am eu cyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg.
A hithau’n adnabyddus fel enillydd BAFTA, bydd yr actores Joanna Scanlon, a chafodd ei magu yng ngogledd Cymru, yn derbyn Gradd er Anrhydedd Doethur mewn Llên am ei chyfraniad at Adloniant Poblogaidd, a Dysgu trwy’r Cyfryngau.
Bydd y gantores ddylanwadol o Fôn, Leah Owen, yn derbyn gradd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg.
Mae Trefor Owen yn gyn Prif Weithredwr Dros Dro a Chyfarwyddwr Rheoli Tir ar Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban, ac fe fydd yn derbyn Gradd er Anrhydedd Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc) am ei gyfraniad at Wasanaeth Cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd.
Ysbrydoli
Bydd y seremonïau yn cael eu cynnal yn y Brifysgol ar ddydd Iau a dydd Gwener.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor y Brifysgol: “Mae’n fraint ac anrhydedd cael dyfarnu Gradd er Anrhydedd i unigolion neilltuol sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr ym myd cyhoeddus.
“Rydym yn croesawu’r unigolion i’n Seremonïau Graddio yn y sicrwydd y byddant yn ysbrydoli ein graddedigion newydd ym mha bynnag maes maent yn ei dewis.”