Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ddyn o Gaerfilli fu farw mewn gwrthdrawiad

11/12/2023
Matthew Theophilus

Mae teulu dyn o ardal Caerffili fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Matthew Theophilus yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A4058 yn Nhrehafod, tua 22:00 ddydd Sul 3 Rhagfyr.

Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â thri cherbyd, BMW gwyn, Vauxhall Zafira glas a Hyundai gwyn.

Dywedodd teulu Matthew Theophilus bod ei farwolaeth wedi “gadael gwacter na fydd byth yn cael ei lenwi”.

“Roedd yn ddyn a oedd yn llawn bywyd a chariad at ei deulu,” medden nhw.

“Roedd yn dad ymroddedig i’w ferch dair oed Shaya a oedd yn dywysoges iddo.

“Roedd Matthew yn fab ffyddlon i Neil a Vicky ac yn frawd i Gareth a Gemma.

“Bydd ein hatgofion o Matthew yn para am oes a bydd Matthew yn byw ymlaen ym mywyd ei ferch werthfawr.

"Hoffem fel teulu ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth ac rydym yn awr yn gofyn am amser i alaru gyda’n gilydd fel teulu.”

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn chwilio am unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad neu a allai fod ag unrhyw luniau camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng o’r digwyddiad neu’r dull o yrru cyn y gwrthdrawiad.

Maen nhw'n annog i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2300411311.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.