Newyddion S4C

Rishi Sunak yn ymddiheuro i deuluoedd wrth gael ei holi gan Ymchwiliad Covid-19

11/12/2023
Rishi Sunak yn ymddangos o flaen ymchwiliad Covid-19

Mae Rishi Sunak wedi ymddiheuro i deuluoedd wrth gael ei holi gan Ymchwiliad Covid-19 y DU ddydd Llun.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “ymddiheuro yn fawr i bawb a gollodd anwyliaid” yn ystod y pandemig.

Gwadodd Mr Sunak, a oedd yn Ganghellor ar y pryd, fod yna unrhyw wrthdaro rhwng iechyd y cyhoedd a’r economi yn ystod argyfwng Covid-19.

“Ro’n i’n gweld fy rôl fel Canghellor y Trysorlys fel un a oedd â’r cyfrifoldeb o wneud yn siŵr bod y Prif Weinidog yn cael y cyngor, y wybodaeth, a’r dadansoddiad gorau posibl am effaith economaidd neu ganlyniadau rhai o’r penderfyniadau yr oedd rhaid iddo eu gwneud,” meddai.

“Doedd dim gwrthdaro rhwng iechyd y cyhoedd ac economeg. Rwy'n meddwl bod hynny yn ffordd llawer rhy gyfyng i feddwl amdano.

“Roedd yna amrywiaeth o effeithiau, rhai economaidd-gymdeithasol, yr effaith ar addysg plant, ar iechyd meddwl, ar y system gyfiawnder troseddol, yn ogystal â’r effaith economaidd pur. 

“Roedd yn bwysig bod llunwyr polisi yn ystyried bob un ohonyn nhw.”

'Beirniadaeth'

Mae ymddangosiad Rishi Sunak yn yr ymchwiliad swyddogol yng ngorllewin Llundain fore Llun yn cychwyn wythnos dyngedfennol i Mr Sunak wrth iddo wynebu pleidlais ar ei ddeddfwriaeth yn Rwanda ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog gael ei holi a oedd yn credu bod gwyddonwyr wedi cael gormod o rym ac a roddwyd digon o ystyriaeth i effaith y cyfnodau clo ar bobl.

Mae negeseuon wedi datgelu bod gwyddonwyr Llywodraeth y DU wedi cyfeirio ato fel “Dr Death, y Canghellor” dros bryderon am ei ymdrech i sichau fod gweithgaredd economaidd yn parhau wrth arwain y Trysorlys yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth gweinidog y Cabinet, Michael Gove, amddiffyn Mr Sunak ddydd Sul, gan ddadlau nad oedd “beirniadaeth gyhoeddus” o’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan cyn ei lansio ym mis Awst 2020.

Ond dywedir bod yr Athro Syr Chris Whitty, prif swyddog meddygol Lloegr, wedi cyfeirio’n breifat at y cynllun i roi hwb i’r diwydiant bwytai fel “bwyta allan i helpu’r feirws”.

'Anodd iawn’

Dywedodd Syr Patrick Vallance, a oedd yn brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU ar y pryd, na allai ef a Syr Chris gofio iddynt gael eu hymgynghori ymlaen llaw ynghylch y cynllun a gostiodd gannoedd o filiynau o bunnoedd.

Wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad y Farwnes Hallett, dywedodd Syr Patrick fod y cynllun yn “debygol iawn” o fod wedi hybu marwolaethau.

Dadleuodd Mr Gove bod y polisi wedi’i gyhoeddi fis cyn iddo gael ei weithredu ac yn ystod y cyfnod hwn “nid oedd hi’n wir bod yna feirniadaeth gyhoeddus”.

“Roedd yn ffordd effeithiol o sicrhau bod y diwydiant lletygarwch yn cael ei gefnogi trwy gyfnod anodd iawn, ac roedd yn gyfan gwbl o fewn yr amlinelliadau bras o reolau ynghylch cymysgu cymdeithasol oedd yn bodoli ar y pryd,” meddai wrth Sky.

Roedd y cynllun yn rhan o ddiweddariad economaidd haf Mr Sunak ar 8 Gorffennaf 2020, oedd yn cynnig 50% oddi ar gost bwyd a/neu ddiodydd di-alcohol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.