Arestio tri ar ôl i gorff babi gael ei ddarganfod tu allan i adeilad
Mae tri o bobl wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff babi gael ei ddarganfod y tu allan i adeilad.
Cafodd yr heddlu eu galw am 12.35 ddydd Sadwrn ar ôl adroddiadau bod babi newydd-anedig wedi cael ei ddarganfod ar Ffordd Norwich yn Ipswich.
Roedd parafeddygon hefyd yn bresennol, ond cyhoeddwyd bod y babi wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ac yn destun ymchwiliad, meddai Heddlu Suffolk.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Mae dau ddyn a dynes wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa”
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Jane Topping: “Mae hwn yn ddigwyddiad trist iawn ac, ar hyn o bryd, mae ein hymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth y babi yn ei gyfnod cynnar.
“Byddwn yn annog pobl i beidio â dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol am amgylchiadau’r digwyddiad trasig hwn.”