Storm Fergus: Rhagor o dywydd garw i daro Cymru
Mae disgwyl i ragor o dywydd garw gyrraedd rhannau o Gymru ddydd Sul wrth i Storm Fergus daro.
Mae disgwyl i’r gwyntoedd “mwyaf cryf” daro’r de, ac fe fydd rhai cawodydd trymion yn golygu hyd at 20 i 30mm o law mewn mannau, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Mae hefyd wedi rhybuddio bod perygl o genllysg a tharanau yn ystod y diwrnod, a bod angen paratoi am oedi posib ar y ffyrdd a thrafnidiaeth cyhoeddus.
“Bydd rhagor o gyfnodau o law trwm, yn enwedig yng Nghymru a gogledd Lloegr,” meddai Simon Partridge o’r Swyddfa Dywydd.
“Mae ‘na bosibilrwydd o wyntoedd cryfion yn lleol, yn enwedig yn ne Cymru.
“Rydym yn gobeithio gweld wythnos fwy sych a sefydlog yr wythnos nesaf.”
Dyma’r ail storm i daro’r penwythnos yma, yn dilyn tywydd garw o ganlyniad i Storm Elin ddydd Sadwrn pan gafodd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ei gyhoeddi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 11 o rybuddion i ‘fod yn barod’ am lifogydd mewn mannau ar draws Cymru.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud eu bod yn parhau i fonitro’r tywydd, gyda phosibilrwydd y gall rhagor o rybuddion gael eu cyhoeddi ddydd Sul.
Cafodd Storm Fergus a Storm Elin eu henwi gan Swyddfa Dywydd Iwerddon, Met Eireann, ac mae disgwyl i Weriniaeth Iwerddon brofi'r gwaethaf o'r tywydd garw ddydd Sul.
“Bydd gwyntoedd cryfion yn taro de orllewin Gweriniaeth Iwerddon cyn i’r storm symud ymhellach tuag at y dwyrain nos yfory,” ychwanegodd Mr Partridge.