Stephen Fry yn dychwelyd i'w waith wedi iddo gwympo o lwyfan a thori 'nifer o esgyrn'
Mae’r actor, digrifwr a'r cyflwynydd Stephen Fry wedi cyhoeddi ei fod am ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn saib o dri mis wedi iddo gwympo o lwyfan a thorri nifer o esgyrn.
Baglodd Mr Fry, 66 oed, chwe throedfedd wrth iddo adael llwyfan yr O2 Arena yn Llundain ar ôl rhoi darlith ynglŷn â deallusrwydd artiffisial yno ym mis Medi.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn fuan wedyn er mwyn dderbyn triniaeth wedi iddo dorri ei goes, ei glun, pelfis a sawl un o’i asennau.
Mewn cyfweliad gyda Claudia Winkleman ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Fry ei fod bellach yn gallu cerdded “heb ffon” ac am ddychwelyd i’w waith.
Ond ychwanegodd y ffigwr adnabyddus ei fod yn pryderu am ddychwelyd i fywyd bob dydd heb ffon, a bod cerdded heb un wedi gwneud iddo deimlo’n “hunanymwybodol.”
“Yn fwy ‘na helpu chi i gerdded a chynnig cefnogaeth, mae’n arwydd i bawb o’ch cwmpas,” meddai.
“Rwy’n byw yng nghanol Llundain, fel rwyt ti’n ei gwybod, mae’r palmentydd yn llawn pobl.
“Mewn gwirionedd, mae wedi bod yn iawn hyd yn hyn ond dwi yn teimlo ychydig yn hunanymwybodol heb y ffon.”
Fe wnaeth Stephen Fry ddiolch i’r gwasanaeth iechyd am y driniaeth y mae wedi ei dderbyn yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae’r gwasanaeth iechyd yn “anhygoel,” meddai.
Llun: Lucy North/PA Wire