Newyddion S4C

Teulu o'r de yn amlosgi'r corff anghywir yn dilyn camgymeriad

09/12/2023
Grange Cwmbran

Mae bwrdd iechyd o dde Cymru wedi ymddiheuro i deulu ar ôl iddynt dderbyn y corff anghywir i'w amlosgi.

Fe gasglwyd y corff gan y teulu o'r marwdy yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, Cwmbrân, ac fe gynhaliwyd y gwasanaeth amlosgi yn Amlosgfa Dyffryn Sirhywi, yn ôl The Daily Mail.

Dywed pennaethiaid Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan mai "camgymeriad dynol" ar eu rhan oedd yn gyfrifol.

Bu'n rhaid i'r teulu gynnal ail wasanaeth amlosgi bythefnos yn ddiweddarach ar ôl i'r camgymeriad ymddangos.

Y gred yw nad oedd gan y person a gafodd ei amlosgi yn gyntaf unrhyw deulu'n fyw.

Ymddiheuriad

Fe wnaeth prif weithredwr y bwrdd iechyd, Nicola Prygodzicz, gyfarfod â'r teulu oedd wedi gorfod mynd trwy'r profiad o gynnal dau angladd mewn pythefnos.

Dywedodd mewn datganiad: "Rydym yn gwbl dorcalonnus am yr hyn sydd wedi digwydd i'r teulu ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb am y digwyddiad ynysig hwn.

"Ni all unrhyw eiriau y gallwn eu dweud, na chamau y gallwn eu cymryd, unioni hyn.

"Mae'n wir ddrwg gennym, ac erys ein meddyliau a'n cefnogaeth lawn gyda'r teulu."

Ychwanegodd Ms Prygodzicz: "Hoffem hefyd dawelu meddwl y cyhoedd bod hwn yn achos eithriadol.

"Fe wnaethom adnabod y camgymeriad hwn trwy ein prosesau ein hunain ac ar ôl adolygiad cychwynnol rydym yn hyderus mai camgymeriad dynol unigol sy'n gyfrifol am hyn."

Llun: Google

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.