Pryder am 'ddiffyg dealltwriaeth' o waith y lolfa canabis meddygol gyntaf yng Nghymru
Pryder am 'ddiffyg dealltwriaeth' o waith y lolfa canabis meddygol gyntaf yng Nghymru
“Dwi ddim yn byw yng Nghymru… ond does dim byd fel hyn lle dwi’n byw.”
Dyma eiriau unigolyn sy’n teithio milltiroedd o’i gartref yn Lloegr i dre’ fach yng Nghwm Cynon er mwyn iddo allu defnyddio canabis meddygol.
Mae Sal Aziz, sy’n wreiddiol o Ddyfnaint, yn byw gyda gorbryder ac iselder.
Ond mae defnyddio canabis meddygol wedi helpu lleddfu ei symptomau’n “sylweddol,” meddai, a bellach mae’n teithio’n wythnosol i lolfa canabis meddygol yn Aberpennar.
Yn ganolfan gyntaf o’i bath yng Nghymru, mae Sal Aziz yn aelod Haze Labs, sef lolfa a gafodd ei sefydlu er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio eu canabis meddygol mewn man “diogel” a “chyfreithiol,” meddai’r perchennog.
Ac mae’r lolfa wedi galluogi cleifion i ddod at ei gilydd, gan greu “cymuned” hollbwysig, ychwanegodd Mr Aziz wrth siarad â Newyddion S4C.
“Mae gen i llawer o fudd gyda canabis meddygol ble mae triniaethau arall wedi methu," meddai.
“Dwi’n gallu mynd allan, dwi’n hapus, dwi’n gallu siarad gyda pobl.
“Mae popeth yn well gyda canabis meddygol."
‘Ystrydebau’
Fe benderfynodd Jay-Paul Jones agor Haze Labs yn rhannol er mwyn mynd i’r afael ag ystrydebau negyddol ynghlwm a’r defnydd o ganabis meddygol, meddai.
Dywedodd: “Mae agor Haze Labs wedi bod yn siwrne bersonol ac ymrwymiad i unigolion sydd angen rhywle diogel i fynd i ddefnyddio canabis meddygol.
“Rwy’n falch iawn i fod y lolfa gyntaf o’i math yng Nghymru, a ‘dyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael ag unrhyw gamddealltwriaeth ynghylch canabis meddygol.," meddai.
'Tystiolaeth o'i fudd'
Mae perchnogion Cannabis Clinic Cardiff, sef clinig sy’n rhoi presgripsiynau i gleifion ar gyfer canabis meddygol, wedi bod yn gymorth i Mr Jones wrth iddo sefydlu’r lolfa.
Fe ddaeth defnydd canabis meddygol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn 2018.
Ac yn ôl Llywodraeth Cymru, gall canabis meddygol gael ei roi i gleifion gan arbenigwyr fel modd o driniaeth – ond “dim ond pan bod tystiolaeth glir o’i fudd.”
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: “Gall meddygon arbenigol rhoi presgripsiynau ar gyfer cynnyrch canabis meddygol, ond ddim ond pan mae tystiolaeth glir o’i fudd; lle nad oes modd cwrdd ag anghenion claf trwy feddyginiaethau eraill; a phan bod pob triniaeth briodol arall wedi methu.”
'Angen codi ymwybyddiaeth'
Mae Claire Ashton a Dr Dave Howells, perchnogion Cannabis Clinic Cardiff, yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’i gyfreithlondeb, ac maent yn pryderu y gallai rhai pobl gael eu harestio ar gam yn sgil diffyg dealltwriaeth.
“Does ‘na ddim bai personol ar swyddogion yr heddlu fel unigolion, ond mae diffyg cyfathrebu wedi bod o’r Swyddfa Gartref i Gomisiynwyr yr Heddlu er mwyn sicrhau bod gan yr heddlu sydd ar ein strydoedd ddealltwriaeth ynglŷn â’r gyfraith gywir a mwyaf diweddar,” meddai Ms Ashton.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym yn cydymdeimlo gyda chleifion sy’n ei chael yn anodd i drin eu cyflyrau, ac rydym yn deall angen rhai cleifion i gael mynediad at yr hyn maen nhw’n ei dybio sydd yn driniaeth effeithiol.”
Ychwanegodd y llefarydd ei fod yn anghyfreithlon mewnforio cyffur rheoledig heb drwydded.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Heddlu De Cymru am ymateb.