Y Dreigiau: 'Rhaid i rygbi elit aros yng Ngwent'
Mae perchnogion y Dreigiau wedi mynnu bod yn "rhaid i rygbi elit aros yng Ngwent", ar drothwy cyhoeddi cynlluniau gan Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol strwythur y gamp ar y lefel uchaf yng Nghymru.
Mae disgwyl i'r Undeb gyhoeddi eu dewisiadau ar ddyfodol y rhanbarthau rygbi yn y dyddiau nesaf.
Fe allai hyn gynnwys gostyngiad yn nifer y rhanbarthau o bedwar i dri neu hyd yn oed ddau ranbarth.
Mewn datganiad gan y Dreigiau ddydd Llun, dywedodd David Wright, David Buttress a Hoyoung Huh bod eu huchelgais yn glir yn 2023 pan gymerodd y tri afael yn yr awenau.
'Neges syml'
"Yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn cymryd rhan yn ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol y gêm yng Nghymru," meddai'r perchnogion.
"Bydd ein neges yn syml ac yn gyson - rhaid i rygbi elit aros yng Ngwent ac mae gan Glwb Rygbi’r Dreigiau bob rheswm i barhau’n falch yn ei ffurf bresennol.
"Fel pob cefnogwr Cymru, rydym ni hefyd eisiau gweld tîm cenedlaethol cryf; mae hyn yn gofyn am drefniant rhanbarthol cadarn a chystadleuol."
Ychwanegodd eu datganiad: "Rydym yn disgwyl i Undeb Rygbi Cymru wrando’n ofalus ar yr holl adborth yn ystod y broses ymgynghori ac adlewyrchu barn pob rhanddeiliad wrth lunio ei gynigion terfynol.
"Mae gennym ni gefnogwyr gwych, staff a chwaraewyr ymroddedig, a phartneriaid gwych. Fel ceidwaid Clwb Rygbi’r Dreigiau, byddwn yn parhau i gynrychioli buddiannau ein cymuned rygbi gyfan."
Aildrefnu
Mae'r Undeb yn berchen ar Rygbi Caerdydd ar ôl i'r rhanbarth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni, ac mae gan y Scarlets berchnogion newydd.
Mae'r Gweilch wedi cyhoeddi cynlluniau i symud i Sain Helen yn Abertawe, wrth i'r rhanbarthau geisio sicrhau dyfodol iddyn nhw eu hunain yn wyneb yr ansicrwydd am yr hyn sydd i ddod.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans