'Pethau angen newid' i sicrhau mynediad i bobl anabl ar nosweithiau allan
'Pethau angen newid' i sicrhau mynediad i bobl anabl ar nosweithiau allan
Trin a thrafod helyntion bywyd yn eich ugeiniau. A fel pob person ifanc arall does dim yn well gan y podlediwr yma na chymdeithasu a mwynhau gyda ffrindiau.
Ond mae ganddi gyflwr sy'n golygu bod mynd ar noson allan i dafarn neu glwb nos yn medru bod yn brofiad anodd.
Mae gen i limb-girdle muscular dystrophy 2I. Mae fe essentially yn cyflwr muscle wasting sy'n effeithio ar fy nghyhyrau a bydd fy nghyhyrau yn mynd yn wannach wrth i fi fynd yn hŷn.
Sa i'n meddwl bod lot o bobl yn sylwi bod noson allan i rywun anabl fel fi yn cymryd lan lot o egni corfforol felly mae hynny yn drafferth mawr i fi yn enwedig os dw i ishe mwynhau y noson hefyd.
Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi'r angen ar fusnesau i wneud "addasiadau rhesymol" i bobl anabl.
Does dim rhaid i bob lleoliad fod yn hollol hygyrch gyda hyn yn broblem i Cerys.
Rhan fwyaf o dafarndai a chlybiau ddim yn hygyrch o gwbl mae 'na wastad rhyw fath o step i fynd mewn i'r clwb neu'r bar a mae hefyd wastad rhyw fath o set o risiau i fynd mewn i'r toiledau neu i fynd i ail-lawr neu beth bynnag ond mae lot o bobl sydd ddim yn gallu mynd fyny grisiau o gwbl.
Dw i ddim wedi gweld un person allan gyda chadair olwynion sydd jyst yn dangos bod llefydd ddim yn barod i groesawu hynny.
Faint ohonoch chi sy'n edrych ymlaen am noson allan Dolig yma? A faint ohonoch chi fydd yn cymryd y profiad hwnnw yn ganiataol?
Wel, mae ffigyrau diweddar yn dangos bod bron i 65% o bobl anabl wedi methu neu wedi profi anhawster mawr wrth geisio cael mynediad i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis.
Ac mae bron i 30% wedi profi'r un anhawster wrth geisio ymweld a lleoliadau cerddoriaeth neu glybiau nos.
Mae pethau angen newid er gwell, mae mor bwysig bod lleoliadau a bod busnesau yn cael hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i wybod pa fath o rwystrau mae bobl anabl yn wynebu a sut allan nhw ddileu y rhwystrau yna.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi sefydlu "Tasglu Hawliau Anabledd" i'w "helpu i ddileu neu leihau unrhyw rwystrau sy'n cyfyngu bywydau pobl anabl yng Nghymru."
Er bod anabledd gen i, dw i ddim yn teimlo yn rhy wahanol a dw i ddim ishe cael fy ngwahanu o bobl sydd yn abl felly y peth gorau i wneud yw trio cynnwys nhw a sicrhau bod unrhyw gynlluniau parti neu beth bynnag yn siwtio eu hanghenion nhw wedyn.
Herio camsyniadau a chwalu'r rhwystrau yw'r neges felly a Cerys yn benderfynol o weld hynny'n digwydd.