Newyddion S4C

Corwen: Dyn wedi ei garcharu am geisio llofruddio mam a’i phlentyn

08/12/2023

Corwen: Dyn wedi ei garcharu am geisio llofruddio mam a’i phlentyn

Rhybudd: Gall rhai rhannau o'r stori hon beri gofid

Mae dyn 27 oed wedi ei garcharu am oes am geisio llofruddio mam a’i phlentyn yn Sir Ddinbych. 

Fe ymosododd Ryan Wyn Jones o ardal Corwen ar y teulu gyda chyllell fara yn eu cartref yng Nghorwen.  

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug iddo chwerthin wrth drywanu gan ddweud wrth un o’r plant, “ffilmia hyn - dy fam yn cael ei llofruddio”. 

Cafodd Ryan Wyn Jones wybod bod yn rhaid iddo dreulio o leiaf 20 mlynedd yn y carchar. 

Roedd wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o geisio llofruddio'r fam ac un plentyn, un cyhuddiad o niweidio plentyn, ac un o fod ag arf llafnog yn ei feddiant.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod Jones wedi gadael y dioddefwyr yn ymladd am eu bywydau.

Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio fel un “creulon, parhaus, wedi'i danio â chocên,” a adawodd blaen y gyllell yn sownd ym mhenglog un dioddefwr.

'Erchyll'

Wrth siarad ddydd Gwener dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Myfanwy Kirkwood ei fod yn croesawu’r ddedfryd.

“Roedd y troseddau a gyflawnodd Ryan Wyn Jones yn wirioneddol erchyll ac mae’r dioddefaint yn rhywbeth na ddylai unrhyw un orfod ei brofi,” meddai.

“Dylai’r dioddefwyr fod wedi teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain a phe na bai plentyn wedi ceisio helpu, fe allai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn.

“Bydd gweithredoedd Ryan Jones yn cael effaith barhaol ar ei ddioddefwyr, ac rwy’n canmol eu dewrder wrth geisio cyfiawnder.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.