Newyddion S4C

Agor hwb bancio cyntaf Cymru i wneud bancio 'wyneb-yn-wyneb yn haws'

08/12/2023

Agor hwb bancio cyntaf Cymru i wneud bancio 'wyneb-yn-wyneb yn haws'

Danteithion i dynnu dŵr o'r dannedd. Ac arian o'r boced.

Yn y caffi yma ym Mhrestatyn mae 20% o'r cwsmeriaid yn defnyddio arian parod, sy'n golygu taith o wyth milltir i'r Rhyl ac yn ôl i fancio'r arian.

Mae ffyrdd o ddod drosto, fedra i dalu y staff efo cash wedyn nhw sy'n cael y strach, nid fi.

Fedra i dalu am nwyddau efo cash. Mae'n ffordd o gael gwared o cash.

Dyna sydd yn fy mhen i o hyd, sut i gael gwared o cash heb drafeilio i'r banc.

Mae dros ddwy flynedd ers i Brestatyn ymuno a threfi eraill wrth golli eu banc ola o'r stryd fawr. Bancio ar y we neu daith i dre arall ydy'r dewis ers hynny ond mae'n bosib gall y lle yma wneud bancio wyneb-yn-wyneb yn haws.

O naw tan bump, bydd cwsmeriaid a busnesau yn medru codi a chadw arian parod o fwyafrif y cwmnïau bancio a chymdeithasau adeiladu.

Bydd staff o un o'r pump banc sy'n cael eu defnyddio fwyaf yno ar eu diwrnod penodedig i ddelio ag anghenion bancio mwy cymhleth.

Mi gafodd y ganolfan ei hagor ar y diwrnod oedd ffigyrau yn awgrymu am y tro cynta ers degawd bod cynnydd mewn defnydd arian parod.

Heddiw, cafodd rheolau newydd eu cynnig gan oruchwyliwr y diwydiant ariannol i warchod hawl pobl i ddefnyddio arian parod.

Maen nhw'n cynnwys dirwyon am godi tal am drin arian parod a therfyn pellter ar faint y dylai pobl orfod teithio i wneud hynny.

Milltir mewn ardaloedd trefol a thair milltir mewn ardaloedd gwledig. Mae'r ganolfan ym Mhrestatyn yn gam i'r cyfeiriad hynna.

Disgwyl i ganolfannau tebyg agor mewn saith lle arall Y Trallwng, Treforys, Abertyleri, Porthcawl, Risca Treorci ac Abergele.

Mae Merched y Wawr wedi codi pryderon am ddiffyg gwasanaeth bancio ers blynyddoedd.

Mae o i'w groesawu ond fyswn i'n licio gweld mwy yn fwy lleol. Bysa rhywbeth canolog yn cael mwy o ddefnydd a mwy o groeso gan bobl ym mhentrefi cefn gwlad.

Er y newid mawr sydd wedi bod mewn bancio mae gwerth o hyd yn y newid mân.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.