Dyn yn pledio’n euog i lofruddio ei wraig mewn tân car yn Abertawe
08/12/2023
Mae dyn 80 oed o Abertawe wedi pledio'n euog i lofruddio ei wraig 77 oed mewn tân car.
Bu farw Helen Clarke yn Ysbyty Singleton, Abertawe, ddeuddydd ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i Lôn Sgeti ger yr ysbyty ar fore dydd Gwener 22 Medi.
Pleidiodd David Clarke o Langland, Abertawe yn euog dros gyswllt fideo mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Cadarnhaodd ei enw a chyflwynodd ei ble.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 9 Chwefror.